Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 1 O 12

Hiraeth am Gariad



Mae calon pob un ohonom yn hiraethu am gariad, hyd yn oed os nad ydym yn ymwybodol o hynny. Cawsom ein creu i garu. Cariad yw Duw. Wyt ti'n hiraethu i adnabod gwir gariad Duw? Felly, wyt ti'n hiraethu i'w garu nôl â'th holl galon, enaid, meddwl, a nerth?



Ond, beth yw gwir gariad? Mae yna gymaint o ystyrion i'r gair. Gallwn ddweud ar amrantiad. "Dw i'n caru coffi, dw i'n caru fy mhriod, dw i'n caru Iesu." Sut allwn ni wybod beth yw gwir gariad? Sut olwg sydd arno? Sut deimlad sydd iddo? Ydy hynny o unrhyw bwys?



Mae gwir gariad yn fwy na ias, teimlad, cenhadaeth, neu hyd yn oed ddysgeidiaeth. Yr hyn yw gwir gariad yw awydd gwirioneddol dros les rhywun arall. Gwir gariad sy'n clodfori Duw yw pwrpas bywyd a bodolaeth yr eglwys.



Byddai rhai yn dweud mai cenhadaeth yw nod eithaf yr eglwys: " Prif nod yr eglwys yw efengylu i'r holl fyd. Cenhadaeth yr eglwys yw cenhadu." (Oswald J. Smith\).



Byddai eraill yn dweud addoliad: "Nid cenhadaeth yw nod eithaf yr eglwys ond yn hytrach Addoliad. Mae cenhadaeth yn bodoli yn hytrach nag addoliad. Addoliad yw'r nod pennaf, nid cenhadaeth, gan mai Duw yw'r nod ac nid dyn. Pan ddaw'r oes hon i ben, a'r miliynau di-rif yn syrthio ar eu hwynebau gerbron gorsedd Duw, bydd cenhadaeth yn dod i ben. Anghenraid dros dro yw e. Ond mae addoliad yn bodoli am byth." (John Piper).



Dw i'n awgrymu mai cariad yw'r nod a bod cenhadaeth ac addoliad wedi deillio o gariad. Mae Duw yn gorchymyn pobol i'w garu a'u holl galon, enaid a nerth. Mae Iesu yn ailadrodd hyn, gan ddweud mai'r gorchymyn cyntaf a mwyaf yw y dylem garu'r Arglwydd ein Duw â'n HOLL galon, HOLL enaid, HOLL feddwl a'n HOLL nerth. Mae HOLL yn golygu HOLL. Yn ddiweddarach mae'n dweud wrthon ni y bydd pob dyn yn gwybod mai ni yw ei ddisgyblion drwy ein cariad at ein gilydd. Yna, mae Paul, yn ei lythyr ar y Corinthiaid, yn esbonio fod ffydd, gobaith a chariad yn aros, ond y mwyaf ohonyn nhw yw cariad. Felly, mae Duw, Iesu, a Paul yn dweud ei bod hi'n ymddangos mai'r nod eithaf ar ein cyfer ni, ac felly, yr eglwys hefyd, yw cariad.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd