Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 3 O 12

Ni all cariad go iawn gael ei ffugio
Mae gwir gariad yn greiddiol i'r efengyl a'r efengyl yw'r amlygiad o gariad Duw. Yr efeyngyl yw'r weithred orau o gariad. Dim ond drwy'r efengyl hon y gallwn ddod a derbyn y cariad go iawn hwn. Rydym wedi derbyn y gallu i adnabod cariad go iawn, i fwynhau cariad go iawn, i fyw mewn cariad go iawn, ac i roi cariad go iawn yng Nghrist.

Beth yw'r efengyl?

Yr efengyl yw'r newyddion da fod rhywun wedi cymryd y bai a'r gosb ar ein rhan am ein holl droseddau yn erbyn Duw. Beth yw'r gosb am bechod? Marwolaeth, llid Duw, poenau enbyd a gwahanu oddi wrth Dduw yn uffern, Camodd Iesu ymlaen, yr unig un allai dalu am ein pechod, a chymryd ein lle. Cymerodd y gosb roedden ni yn ei haeddu yn GYFAN GWBL. Camodd Iesu ymlaen, yr un oerffaith, heb bechod, yn Dduw ac yn ddyn, a rhoi ei fywyd drosom. Roedd ef yn ddibechod a chymerodd ein pechod ni yn GYFAN GWBL., ein drygioni a phopeth oedd o'i le arnom, arno'i hun yn GYFSNGWBL, ac yn ei le rhoddodd i ni ei sancteiddrwydd, ei gymeriad, a'i GYFIAWNDER.

Mae'r un roddodd ei fywyd drosom am i ni brofi o'r cariad hwn, ei dderbyn, byw ynddo, a'i roi i eraill.


Wyt ti wedi derbyn y cariad hwn? Os nad wyt yn siwr rydym yn dy wahodd i ddarllen "The Gospel of Our Salvation."" Os wyt yn gwybod dy fod wedi derbyn maddeuant Duw a dy fod wedi ymddiried yng Nghrist a'i gariad, y peth nesaf rydym am ofyn i ti ei wneud yw'r funud hon yw gweddïo'r weddi fer hon cyn i ti fynd ymhellach:“Arglwydd dw i'n gofyn i ti agor fy nghlustiau i glywed Gair Duw, agor fy llygaid i weld ti a'th wirionedd, ac agor fy nghalon i ymateb i'r cwbl y byddi'n ei ddangos i mi. Helpa fi i ddeall a derbyn dy gariad go iawn a deall gymaint mwy o'r hyn rwyt wedi'i wneud drosta i, gan allu byw yn dy gariad go iawn. Amen.”

Cariad Duw tuag atat ti yw'r cariad gorau. Mae amgyffred a derbyn a deall ei gariad go iawn yn angenrhedidiol a sylfaenol ar gyfer pwy ydyn ni, ein perthynas â Christ, a'r cwbl oll rydym yn ei wneud ym mhob rhan o'n bywydau. Rydym i gerdded yn ei gariad o funud i funud.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd