Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Am YouVersion

Perthnasedd

Yn y cenedlaethau a fu, roedd mynediad pobl at y Beibl yn gyfyngedig iawn. Heddiw, nid yw hyn yn wir bellach. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sydd â mynediad at y Beibl yn meddwl nad yw ei neges yn berthnasol i’w bywydau. Ar yr un pryd, mae yna eraill sy'n credu bod cysylltiad rhwng y Beibl a'u profiadau bob dydd.

Chwyldro Gwybodaeth

Dros y ddegawd ddiwethaf mae tŵf y Rhyngrwyd wedi arwain i chwyldro gwybodaeth sy'n rhoi grym i bobl na welwyd erioed o'r blaen. Bellach gallwn rannu, cyfrannu, creu, darlledu a chyfathrebu ac mae’n rhwydd dweud wrth bobl drwy'r byd i gyd pwy ydyn ni a beth y'n ni’n ei gredu.

YouVersion

Ers ei gychwyn yn 1996, pwrpas Life.Church fu arwain pobl i ddod yn ddilynwyr llwyr ymroddedig i Grist. Wrth wneud hynny, dŷn ni wedi chwilio am ffyrdd newydd o helpu pobl i gysylltu’r Beibl â’u bywydau bob dydd. Mae ein dulliau wedi newid dros y blynyddoedd wrth i ni ymgorffori technolegau a strategaethau amrywiol. Ond yn greiddiol, erys ein ffocws ar berthnasedd wrth inni ymdrechu’n gyson i ddangos a dysgu pobl sut mae Gair Duw yn berthnasol i bawb, waeth ble maen nhw mewn bywyd. Mae YouVersion yn cynrychioli ffin newydd yn ymdrechion Life.Church. Nid dim ond adeiladu arf i gael effaith ar y byd gan ddefnyddio technoleg arloesol ydyn ni, yn bwysicach fyth, dŷn ni’n ymgysylltu pobl i berthynas â Duw wrth iddyn nhw ddarganfod perthnasedd y Beibl i’w bywydau.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd