Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 9 O 12

Sut ydym i gerdded mewn Cariad Go Iawn?



Darllena 1 Ioan 4:16-17 a Ioan 13:34-35.



Beth sy'n rhyddhau cariad? Sut allwn ryddhau ein hunain o bechod a charu ein hunain a cherdded yn ein blaenau mewn cariad go iawn?



Fedrwn ni ddim gwneud hyn hebddo ef a heb ei help. Mae mor hawss i golli golwg a chael ein baglu. Cariad Crist a'r efengyl yw'r unig obaith. Daeth Iesu a byw, bu farw, cafodd ei gladdu, atgyfododd gan presgyn pechod, Satan, a marwolaeth. Cawsom ein caru gan Fab Duw a roddod ei hun drosom ni. Gosododd y llwybr o'n blaen yn ewi gariad. "Arglwydd Iesu dw i eisiau cerdded yn y cariad hwn. Helpa fi i roi fy holl obaith a'm hymddiriedaeth ynot ti."



Gall darllen emynau'r hen seinitiau ein helpu i ffocysu ein meddwl yn y frwydr. Fe glywn eu calonnau yn gorfoleddu yn Nuw, yn ei addoli, yn byw bywydau sanctaidd, ac yn ei garu gyda'u holl galon, enaid, meddwl a nerth. Ystyria'r penillion hyn gan Ann Griffiths (1776-1805). Ydy dy galon yn hiraethu am gael caru'r Arglwydd fel hyn?



Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd

wrthrych teilwng o’m holl fryd,

er mai o ran yr wy’n adnabod

ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd:

henffych fore

y caf ei weled fel y mae.



Rhosyn Saron yw ei enw,

gwyn a gwridog, teg o bryd;

ar ddeng mil y mae’n rhagori

o wrthrychau penna’r byd:

ffrind pechadur,

dyma ei beilot ar y môr.



Beth sydd imi mwy a wnelwyf

ag eilunod gwael y llawr?

Tystio ‘rwyf nad yw eu cwmni

i’w gystadlu â’m Iesu mawr:

O am aros

yn ei gariad ddyddiau f’oes.



Gafael yn y Gwirionedd: Dewisa ddarn o'r Ysgrythur i'w ystyried heddiw.



Rhoi'r Hunan i Farwolaeth: Pa bechod penodol yn dy fywyd sy'n cael sylw? Mae Paul yn benodol iawn wrth ddweud wrthym i roi heibio'r hen hunan.



Dod â'r Gwirionedd yn Fyw: Gwisga amdanat yr hunan newydd - Crist. Pa newidiadau penodol yn dy feddwl, agwedd neu ymddygiad sydd raid i ti eu gwneud i'w ildio iddo ef a gweithredu ei wirionedd yn dy feddwl a'th galon?
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd