Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 12 O 12

Casgliad



O ystyried y cwbl rydym wedi'i ddarllen, astudio a'i ystyried dros y dyddiau diwethaf ydy dy galon yn hiraethu am gael profi cariad go iawn a charu'r Arglwydd a'th holl galon? Rydym angen yr Arglwydd. Ef yw'r unig un all ddangos i ni beth ydy cariad go iawn a sut mae cilio oddi wrth y pechod sy'n dal gafael ynom ni. Mae cilio oddi wrth yr hunan a rhoi i farwolaeth y cnawd yn dasg gydol bywyd. Mae'n golygu bod rhaid rhoi heibio ein tueddiadau YN DDYDDIOL a "cherdded mewn ffydd". Rhaid dal ati i afael yn y gwirionedd a'i roi ar waith yn ein bywydau yn ddyddiol. Rhaid anwybyddu celwyddau'r cnawd, y diafol, a'r byd gan wisgo amdanom wirionedd Gair Duw, yng ngrym yr Ysbryd Glân. Po fwyaf y dysgwn anwybyddu cysuron a ffyrdd y byd po fwyaf y gallwn fwynhau presenoldeb Crist, a bydd ein hawch am Grist yn tyfu. Cawn ein trawsnewid gan adnewyddiad ein meddwl a'n calon. Ein dymuniad fydd gadael ein hen ffyrdd o'n hôl a glynu wrth gysuron Crist gan adnabod llawenydd a phleserau cariad go iawn. Byddwn yn profi'n llawn o'i gariad gan gyflawni pwrpas Duw ar ein cyfer fel sy'n cael ei nodi yn Catecism San Steffan: Beth yw gwir bwrpas dyn? Gwir bwrpas dyn yw gogoneddu Duw a'i foli hyd byth!



Gweddïwn, "Arglwydd dw i'n dy garu di am dy fod yn clywed fy ymbilio am drugaredd. Mae dy gariad wedi cael ei arllwys i'm calon drwy rodd yr Ysbryd Glân i mi. Diolch, Arglwydd!"



Gafael yn y Gwirionedd:

Dewisa ddarn o'r Ysgrythur i'w ystyried heddiw.



Rhoi'r HUNAN i farwolaeth:

Pa bechod sy'n cael ei ddelio ag e yn dy fywyd?



Dod â'r Gwirionedd yn fyw:

Pa newidiadau mae arnat angen eu gwneud yn dy feddwl, agwedd neu ymddygiad i'w hildio i Dduw?
Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd