Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 8 O 12

Gwrthwynebiad i Gariad



Os mai Crist yw cariad a charu fel Crist yw'r nod, yna fe fydd yna wrthwynebiad i'r bwriad hwn. Os mai cariad yw Duw, yna bydd Satan yn llwyr yn erbyn hyn. Mae bywyd, nid yn uinig yn anodd, mae'n frwydr. Fel mae dafad angen bugail i'w chadw'n ddiogel ac ar y llwybr. rydym ni angen dilyn ein Harglwydd yn agos er mwyn cadw rhag crwydro, rhag ymgolli yn y byd, rhag ymgolli ynon ni ein hunain, neu rhag gael ein twyllo gan y gelyn.



Gallwn weld mor fregus ydym gan weiddi allan fel y Piwritan, "O Arglwydd, dw i'n gragen llawn llwch... Dydw i ddim yn wrthrych o unrhyw werth, ond yn un sydd heb ddim ac yn ddim... Dw i'n gwbl argyhoeddiedig o ddrygioni a thrallod y cyflwr pechadurus a balchder creaduriaid" (allan o “Man A Nothing,” in The Valley of Vision).



Os mai cariad yw Duw a'n bod wedi ymddiried yng Nghrist fel ein Gwaredwr, gwyddom ein bod yn cael ein caru. Rydym hefyd yn gwybod ein bod wedi ein hachub o deyrnas tywyllwch sy'n gwrthwynebu cariad ac wedi mynd i mewn i'r deyrnas yma o gariad go iawn. Nawr rydym am wybod sut i gerdded ynddo. Sut mae gwneud hyn? Drwy gadw ein llygaid ar yr efengyl a chael ein nerthu ganddi:



- yr efengyl yw sylfaen cariad go iawn

- mae'r efengyl yn amlygu cariad

- mae'r efengyl yn diffinio cariad

- mae'r efengyl yn ein galluogi i ymateb mewn cariad



Rhaid i ni ofyn, yn ddyddiol i'r Arglwydd ein helpu i'w ddilyn, i gerdded yn ei gariad, ac i estyn ei gariad i eraill.



Dal gafael yn y Gwirionedd: Dewisa ddarn o'r Ysgrythur i'th helpu i adnewyddu dy feddwl a thrawsnewid dy galon.



Rhoi'r Hunan i Farwolaeth: Pa bechod penodol yn dy fywyd sy'n cael sylw? Mae Paul yn benodol iawn wrth ddweud wrthym i roi heibio'r hen hunan.



Dod â'r Gwirionedd yn Fyw: Gwisga amdanat yr hunan newydd - Crist. Pa newidiadau penodol yn dy feddwl, agwedd neu ymddygiad sydd raid i ti eu gwneud i'w ildio iddo ef a gweithredu ei wirionedd yn dy feddwl a'th galon?
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd