Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 5 O 12

Cariad yn cael ei Wyrdroi



Fel Awstin Sant gallwn ddweud fod mai cariad yw'r nod. Ond hefyd gyda Awstin Sant gallwn dynnu sylw at y ffaith fod y gwirionedd mae Duw yn ei roi yn cael ei wyrdroi; a dyna yn ei hanfod yw drygioni. Felly mae cariad, hyd yn oed, yn cael ei wyrdroi a'i ffocysu ar yr hunan. Fel pechaduriaid ein tuedd yw i ffocysu ar ein hunain a rydym yn bwy mewn byd sy'n ffocysu ar ei hun. Wrth gadw y ffocws ar ein hunain rydym yn colli allan ar ei gariad.



Dydyn ni ddim am golli allan ar yr hyn sydd yn syth o'n blaenau o ganlyniad i ofn, balchder neu angrhesinaeth. Does ganddon ni ddim eisiau mynd drwy fywyd a'i holl chwyldroadau, dim ond i gyrraedd y diwedd a darganfod ein bod wedi methu'r pwynt.



Mae dihareb, gydag amrywiadau lu dros y canrifoedd, yn ein rhybuddio'n dyner y gall cyffesiadau sydd ar un olwg yn ymddangos yn ffwrdd â hi, gael canlyniadau blin ac annisgwyl.



Oherwydd yr angen am hoelen, collwyd esgid,

Oherwydd yr angen am esgid, collwyd ceffyl,

Oherwydd yr angen am geffyl collwyd reidiwr,

Oherwydd yr angen am reidiwr, colwyd neges,

Oherwydd yr angen am neges, collwyd y frwydr,

Oherwydd yr angen am frwydr, collwyd y rhyfel,

Oherwydd yr angen am ryfel, collwyd y deyrnas,



Oherwydd yr angen am hoelen, collwyd y byd.



Er y cawn fynd i'r nefoedd, mae'n bosib y byddwn yn darganfod nad ydym wedi mwynhau llawnder ei gariad ar y ddaear y bwriadodd ar ein cyfer. Mae Amy Carmichael yn rhannu: "Sgwennodd Julian o Norwich [yn y 1300au]: 'Ewyllys Duw yw ein bod yn derbyn ei gysuron mor fawr a grymus ag y gallwn, a'i ewyllys yw ein bod yn diystyru ein problemau gymaint fel eu boid yn cael eu dileu. Ie, mae llawenydd yn dod yn y bore.'"



300 mlynedd yn ddiweddarach sgwennodd Samuel Rutherford, "Fedra i ddim deall cynnig Crist o gariad. Taswn i wedi sylweddoli beth roedd yn ei gadw ar fy nghyfer faswn i ddim wedi bod mor wangalon."



Ydech chi'n gallu uniaethu gyda'r hen seintiau hyn? Yn aml iawn rydym yn ei chael hi'n anodd i dderbyn y cariad hwn, gan deimlo'n annheilwng neu annerbyniol. Mae gynnon ni deimlad dwfn yn yr enaid nad ydyn ni'n deall y pwynt. Ond os byddwn yn methu'r pwynt byddwn yn methu nifer o'r bendithion a chyfleon sydd ganddo ar ein cyfer, nawr ac yn y dyfodol.
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd