Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 6 O 12

Nid yw'r hyn rydym yn ei DEIMLO o reidrwydd yn WIR



Ystyria hyn: Nid yw'r hyn rydym yn ei DEIMLO o reidrwydd yn WIR. Mae'n hawdd iawn i'n hemosiynau ein twyllo. Mae ein gweithredoedd a'n hagweddau yn dweud cymaint mwy wrthon ni os ydyn ni'n caru na mae ein teimladau yn ei ddweud. A hyd yn oed pan fyddwn yn chwilio ein hunain, mae ein barn yn aneglur. Rydym yn ddall. Rydym yn edrych ar un neu ddau o weithredoedd anhunanol y byddem efallai yn eu cyflawni yn ystod y dydd, ac eto mae gweddill y dydd yn llawn o gynlluniau a dyheadau hunanol.



Beth mae eich gweithredoedd yn ei ddweud?



Sut mae dod o hyd i gariad go iawn pan dŷn ni wedi ein geni mewn byd myfiol a hunanol? Sut mae canfod y gwahaniaeth a ble dŷn ni hyd yn oed dechrau? Rhaid edrych at bwy yw Duw gan mai Cariad yw Duw. Ef yw'r ffynhonnell, ac mae'r hyn mae e'n ei wneud ac yn ei roi i ni yn rhoi i ni ddiffiniad a deallusrwydd o'r hyn yw cariad.



Diolch byth nad yw cariad Duw yn gael ei roi i ni ar sail haeddiant. Mola Dduw am ei drugaredd gan nad ydyn ni'n haeddu ei gariad. Ond trwy ei ras mae e wedi rhoi cariad i ni, yng Nghrist. Os felly, dŷn ni adnabod ffynhonnell cariad. Mewn iachadwriaeth fe wnaethon ni dderbyn ei gariad, a rhoddodd ei gariad i ni trwy ras ei Ysbryd Glân. Felly, gallwn:



garu Duw a

charu eraill.



Mae hyn yn golygu mai cariad yw ffynhonnell ein gweithredoedd.



Wyt ti'n adnabod cariad Crist? Wyt ti wedi derbyn cariad Duw a Christ ei Fab? Wyt ti'n gwybod am wirionedd yr efengyl?



Mae'r Arglwydd yn dymuno ein bod yn chwilio am ei gariad ac yn ei dderbyn. Mae'n fodlon cwrdd â ni ble bynnag ydyn ni - mewn tristwch, mewn llawenydd, mewn siomedigaeth, mewn buddugoliaeth. Mae e'n dymuno ein bod yn gwybod ei fod yn ein caru. Mae e eisiau i ni drystio ei gariad. Beth am ddod ato gyda ein gofalon, ein holl ofnau, ein pechod, a'n holl helbulon gan eu gosod wrth ei draed a derbyn ei drugaredd a chariad, yn eu lle.
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd