Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 2 O 12

Y Nod Gorau



Os mai cariad yw'r nod gorau, onid ydyn ni eiisiau gwybod sut olwg sydd arno a sut mae ei gael? Y cwestiwn all godi yw, Oes modd adnabod cariad go iawn?



Os mai Cariad yw Duw,



a mae e'n gorchymyn i ni ei garu,



a mae Duw, drwy ei ras, wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy Grist, wrth ein hachub,



yna gallwn ddod i'r casgliad mai'r ateb yw OES - OES cryf a chlir!



Rydym wedi derbyn y gallu i adnabod cariad go iawn, i fwynhau cariad go iawn, i fyw mewn cariad go iawn, ac i roi cariad go iawn. Os mai Duw ei hun yw cariad go iawn, ef yw, nid yn unig yr esiampl a'r safon orau ar gyfer cariad, ond ef yw gwreiddyn cariad hefyd.



Ond, oes yna rwystrau sydd efallai am ymddangos o'n blaenau?



Anghrediniaeth? Poen? Brad? Diffyg Ymddiriedaeth? Apathi? Bywoliaeth? Cartref? Ofn? Annheilyngdod? Methiant? Ystyria hyn heddiw tra'n gweithio, tra rwyt gartref, yn gyrru'r car... yna, dos at yr Arglwydd mewn gweddi a rhanna'r atebion ges di. Os nad wyt yn credu fod dim yn dy rwystro, ac yn teimlo dy fod mor agos a hoffet ti fod at Dduw, rhanna hynny hefyd.
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd