Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 4 O 12

Ein hymateb i'r Efengyl



Darllena Effesiaid 2:1-10, Effesiaid 1:1-15, a 3:14-21.



Dydy o ddim o bwys pa mor gyfarwydd neu ddieithr yw'r efengyl i ti, cymer dy amser i feddwl a myfyrio mewn gweddi ar yr efengyl. Rydym wedi dewis darnau o'r Ysgrythur a darlleniadau i'th helpu i wneud hyn. Gofynna i'r Arglwydd i amlygu'r efengyl yn dy feddwl a'th galon gydag eglurder, nerth a thynerwch.



Rydym am weld iesu a'i aberth a gweld ein calon a'n hunain fel mae Duw yn eu gweld. Dydyn ni ddim eisiau cael ein twyllo. Nid ryw ymarferiad deallusol yn unig yw'r efengyl, mae'n fater i'r galon.



Ystyria rym yr efengyl yn dy fywyd a'i effaith arnat ti. Dalia ati i wneud hyn dros y dyddiau nesaf. Yna, edrych ar dy galendr a noda ddiwrnod ac amser wythnos o heddiw pan y gelli di dreulio 15-20 munud yn diolch i Dduw a dathlu'r cyfan mae e wedi'i wneud yn dy fywyd drwy'r efengyl.



Wrth i ti fyfyrio ar yr efengyl, gwna'n siŵr dy fod yn hollol onest efo ti dy hun ac yn hollol agored gyda'r Arglwydd. Dweda wrtho ble mae dy amheuon, cwestiynau, difaterwch, calon galedni, synnwyr apathetig, neu hyd yn oed angrhediniaeth cyffredinol. Does dim i'w ofni pan ydym gyda Christ. "Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn." (1 Ioan 1:9).
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hw...

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd