Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 4 O 25


Dechreuadau Di-nod


Tref fach oedd Bethlehem, digon di-nod o gymharu â dinasoedd mwy yn yr ardal. Yn Micha, pennod 5, adnod 2, mae Bethlehem yn cael ei galw'n "un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda." Pam fyddai Duw'n dewis dod i'r byd mewn lle mor ddi-nod? Ydy e'n haeddu bod yn fan geni i Frenin y Brenhinoedd?


Y peth ydy doedd Duw erioed wedi bod â diddordeb yn niffiniad y byd o fawredd. Doedd cyfoeth, enwogrwydd, poblogrwydd, pŵer - ddim un o'r rhain, yn nodedig yng ngolwg Duw. Dwedodd Paul wrth y Corinthiaid, "Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‛twp‛, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy'n meddwl eu bod nhw'n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym." Mae'r hyn mae e'n gallu ei wneud ym mywydau pobl ddim wedi ei gyfyngu gan eu statws daearol. Os mai "un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda" faint fwy o fawl fyddai Duw'n ei dderbyn o sefydlu bywyd ei Fab yno? Doedd ble ddechreuodd taith Iesu ddim yn pennu beth allai e ei gyflawni dros ei Deyrnas. Ydy hyn ddim yn wir amdanon ni hefyd?


Gweddi: Dad, diolch am beidio gadael i gyfnodau mwyaf anodd fy mywyd gyfyngu ar fy mhotensial. Diolch am roi pwrpas ddwyfol i rywun mor amherffaith â fi. Dw i'n dy ganmol am dy nerth anhygoel sy'n fy nghario mwn cyfnodau o wendid. Dw i'n gwybod, er gwaetha ble dw i'n dechrau, byddi'n mynd â fi i ble rwyt ti am i fi fod. Diolch Iesu am ddangos i mi fod pethau anhygoel yn dechrau mewn mannau di-nod.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd