Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 5 O 25


Cyfiawnder wedi'i Adfer


Mewn proffwydoliaeth yn Sechareia, pennod 9 addawodd Duw y byddai Brenin y dyfodol un dod gydag iachawdwriaeth a chyfiawnder. Mae hyn yn golygu bod Duw wedi dod â'i "gyfiawnder" adeg y Nadolig ym mherson Iesu Grist. Dyma'n union oedd ei angen ar y byd (a dal ei angen), Yn Rhufeiniaid, pennod 3, adnod 10, mae Paul yn disgrifio cyflwr gwael y ddynoliaeth: "Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl!" Dŷn ni i gyd yn yr un sefyllfa, wedi ein geni gyda phechod ac yn methu gwneud ein hunain yn gyfiawn. Ond yn Rhufeiniaid, pennod 1, adnod 17 mae Paul yn dweud, "“Drwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.” Nid yw Cristnogaeth yn dibynnu ar ennill cyfiawnder, ond yn hytrach derbyn cyfiawnder Iesu "drwy ffydd." Dydy e ddim i wneud ynglŷn â pwy ydyn ni, ond yn hytrach pwy yw e.


Ar ôl i Iesu gael ei eni, parhaodd i fyw mewn cyfiawnder weddill ei fywyd. Roedd e'n berffaith, yn aros yn agos at Dduw ac yn dilyn cynllun ei Dad, heb betruster. Ar y groes, fe wnaeth e drosglwyddiad. Mae 2 Corinthiaid, pennod 5, adnod 21 yn dweud, "Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni." Pan fu Iesu farw droson ni, cymerodd ein amherffeithrwydd a'i roi i farwolaeth, gan roi ei berffeithrwydd ac agosatrwydd gyda Duw, i ni.


Cofia, nid yw cariad Duw tuag atom ni wedi'i selio ar beth dŷn ni'n ei wneud neu ddim yn wneud. Mae ar sail beth mae Iesu wedi'i wneud yn barod. Mae Rhufeiniaid, pennod 5, adnod 8,
yn dweud, "Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae'n ein caru ni drwy i'r Meseia farw droson ni pan oedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!" Cafodd yr un Cyfiawn ei eni adeg y Nadolig i ddangos cariad Duw'n y ffordd mwyaf pwerus, gan ein gwneud yn gyfiawn yn ei olwg e.


Gweddi: Dad, rwyt yn llawn gras anhygoel! Dw i'n derbyn dy gyfiawnder di heddiw drwy ffydd yn dy Fab, Iesu. Dw i'n gwybod dy fod yn hapus â mi dim ond o achos beth wnaeth Iesu drosto i. Diolch Iesu am fod yna i mi. Helpa fi gofio nad wyf ennill hyn o'm rhan fy hun fel fy mod yn gallu dy wasanaethu gyda gostyngeiddrwydd a diolchgarwch gydol fy mywyd.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd