Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 6 O 25


Brenin y Brenhinoedd


Mae Salm 72 yn dechrau gyda'r Brenin Dafydd yn gweddïo i'w fab, Solomon, ddod yn frenin mawr dros genedl Israel. Wrth i'r Salm fynd yn ei blaen. dechreua Dafydd freuddwydio am y brenin perffaith, yn proffwydo beth fyddai'n wir am deyrnasiad Iesu. Dros 950 o flynyddoedd cyn geni Iesu, gwelodd Dafydd deyrnasiad di-ddiwedd Brenin y Brenhinoedd. Byddai'r Brenin yn cael ei adnabod am ei dosturi a'i achub o'r rhai anghenus ac mewn cyfyngder. Byddai'n gorchfygu gormes a thrais, a byddai'n amlwg fod ei bobl yn werthfawr iddo. Am y rhesymau hyn cyhoeddodd Dafydd y byddai pob brenin yn ymgrymu iddo a phob cenedl yn ei wasanaethu.

Sylweddolodd Dafydd fod tosturi dwfn a gofal am bobl Dduw, heblaw am ymladd yn erbyn y gormes gorchfygol di-diwedd, yn arwyddion o'r Brenin perffaith - un na fyddai ei farn moesol ac anhunanoldeb fyth yn cael ei gyfaddawdu. Yn ogystal â bod yn garreg milltir mewn amser ble y daeth y Gwaredwr i'r byd, roedd y Nadolig yn arwydd o ddechrau etifeddiaeth tragwyddol y Brenin mwyaf. Bydd Iesu'n dal i deyrnasu fyrddiynau ar ôl i frenhinoedd a theyrnasoedd y byd hwn farw, a byddwn yn gallu byw o dan adain ei gariad perffaith am byth.


Gweddi: Iesu, dw i'n dy anrhydeddu di fel Brenin fy mywyd ar y ddaear a hyd dragwyddoldeb! Fedra i ddim disgwyl i brofi o burdeb sy arweiniad, wrth i'r byd toredig ddiflannu. Diolch am ddod i'r ddaear a dechrau ar y daith at dy orsedd, yn ein plith. Dw i mor diolchgar am dy ofal dwfn drosto i ac am eiriol drosof fel fy mrenin, yn ddi-ddiwedd. Dw i'n dy garu ac yn cyflwyno fy hun i'th ffyrdd perffaith.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd