Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 3 O 25


Achubiaeth ar gyfer Gobaith Gohiriedig


Mae'n siŵr dy fod wedi clywed y ddihareb, "Mae gobaith gohiriedig yn gwneud y galon yn wael." Ond, wyddost ti, ganwyd Iesu am fod Duw wedi talu am obaith gohiriedig? Yn Genesis, dŷn ni'n darllen fod Abraham a Sara wedi hiraethu am blentyn am ddegawdau, ond doedd Sara ddim yn galu cael plant. Pan oedd Sara yn 90 oed fe wnaeth Duw ymddangos i Abraham ac addo y byddai Sara yn geni mab, a thrwy'r plentyn hwn, byddai'n sefydlu cyfamod tragwyddol rhyngddo e a disgynyddion Abraham. Chwarddodd Sara pan ddwedodd Duw hyn, gan feddwl "Ydw i'n mynd i gael pleser felly?" ond, beichiogodd Sara a geni mab. Enwodd Abraham e'n "Isaac" sy'n golygu "chwerthin" oherwydd cafodd Sara lawenydd ac achubiaeth drwy sefyllfa oedd yn ymddangos yn amhosibl.


Mab Isaac oedd Jacob, ac roedd 12 mab ganddo. Un ohonynt oedd Jwda. Daeth y Brenin Dafydd o lwyth Jwda, a chan fod Mair yn ddisgynnydd o Dafydd (fel oedd ei dad daearol, Joseff), y Gwaredwr oedd ffrwyth addewid Duw i Abraham a Sara. Wrth i Dduw iachau corff Sara a chyflawni dymuniad ei chalon, plannodd hedyn, a fyddai'n y pen draw, yn cymodi'r ddynoliaeth ag e. gan sefydlu cyfamod a fyddai'n para am byth. Mae'r ffaith fod Sara wedi geni plentyn yn ei henaint yn rhoi i ni reswm arall i synnu at stori wyrthiol genedigaeth Iesu.


Os wyt yn wynebu gobaith gohiriedig heddiw, bydd yn dawel dy feddwl fod gan Dduw achubiaeth ar gyfer y tymor hwn a bydd yr hyn a ddaw yn ganlyniad tu hwnt i bob dychymyg. Er nad wyt yn gallu gweld y pwrpas nawr, fe fyddi di. Dal gafael yn addewid Duw! Byddi'n profi fod "dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd."


Gweddi: Dad, diolch am fod yn wir i'th Air. Fel y gwnest ti gyflawni dy addewid i Sara, byddi'n gwneud i mi hefyd. Diolch i ti, ymlaen lalw, am ddefnyddio'r cyfnodau anodd yn fy mywyd i bwrpas gymaint mwy. Dw i'n freintiedig i fod yn rhan o'r gwaith sy'n dod â mawl i ti.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.



Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd