Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 9 O 25


Yn Gymwysedig i Bwrpas


Daeth yr amser i addewid cyntaf Duw i gael ei gyflawni. Byddai pechod wedi'i drechu am byth, ond yn gyntaf, byddai'n rhaid i'r Gwaredwr gael ei osod yng nghroth ei fam. Fedri ddychmygu mor gynhyrfus oedd duw pan anfonodd angel o'r nefoedd i ddadlennu ei gynllun i Mair? Roedd y foment hon wedi'i threfnu ers miloedd o flynyddoedd!


Meddylia am Mair: ifanc a gostyngedig ond wedi'i dewis gan Dduw. Pan anfonodd yr angel ati, anfonodd gydag e eiriau o gariad. Gadawodd iddi wybod ei bod wedi'i dewis a doedd ganddi ddim rheswm i ofni. Cyn iddi gael amser i amheuaeth neu ansicrwydd gymryd drosodd. rhoddodd Duw y hyder i Mair i weithredu ar ei bwrpas yn ei bywyd.


Wrth i'r Nadolig agosáu, rho dy hun yn esgidiau Mair a myfyrio ar y foment hon. Meddylia mor anhygoel, hyd yn oed llethol, oedd iddi ddarganfod feintioli'r pwrpas a roddwyd iddi gan Dduw. Mae'n bwysig i sylweddoli, yn union fel roedd ganddo bwrpas dwyfol ar gyfer Mair,. mae ganddo bwrpas dwyfol ar dy gyfer di, hefyd. Yn union fel y gwnaeth e ymddiried yn Mair gyda chynlluniau mawr, mae e wedi ymddiried rywbeth gwyrthiol i ti! Gofynna i Dduw ddadlennu beth sydd ganddo ar dy gyfer, a bydd yn hyderus y bydd yn darparu'r hyn sydd ei angen i ti ei weithredu.


Gweddi: Dad, diolch am dy rodd o Iesu. Diolch am ddewis Mair i ddod ag e i'r byd. Defnyddiaist hi fel llestr ar gyfer dy wyrth mwyaf. Diolch hefyd am roi i mi bwrpas ddwyfol. Helpa fi i fod yn dawel, i chwilio amdanat, ac i'th adnabod yn well yn ystod y tymor hwn. Defnyddia'r amser hwn i ddadlennu mwy am dy bwrpas ar fy nghyfer wrth i mi ffocysu ar bwrpas y Nadolig.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.


Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd