Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 8 O 25


Y cyfnewid Mawr


Daeth Iesu i'r ddaear i roi i ni roddion o dderbyniad, heddwch, iachâd, a maddeuant, ond nid oedd y rhoddion hynny'n rhad. Allen ni fyth fforddio'r hyn wnaeth Iesu ei ddarparu, a hynny'n ddiolchgar, a does dim rhaid i ni. Mae Duw, nawr, yn ein derbyn, nid oherwydd ein hymddygiad, ond oherwydd fod Iesu wedi talu'r pris, drwy brofi'r gwrthodiad mwyaf drosom ni. Dewisodd Iesu farw dros ein pechod, concro marwolaeth, a rhoi bywyd i ni. Galwodd y proffwyd Eseia ein pechodau'n "ddrygioni" - yn ei hanfod, ein troseddau. Creodd y pechodau hynny ddyled na allem fyth ei thalu, ond yn ei berffeithrwydd fer allai Iesu. Wrth i Iesu gael ei eni i fyd lle byddai'n cael ei gleidio a'i ddolurio, daeth â heddwch ac iachâd i ni.


Mae'r broffwydoliaeth yn Eseia, pennod 53 yn portreadu cyfnewid mawr Duw: Bywyd Iesu dros pob un ohonom ni. Gwyddai Iesu am gost y Nadolig, ac fe'i cofleidiwyd ganddo fel ein bod ni'n gallu ei gofleidio e a'r bywyd tragwyddol wnaed yn bosibl drwyddo e, i ni. Wrth i ti ddathlu'r tymor hwn, paid anghofio: Allwn ni ddim ond cael maddeuant, iachâd a'n gollwng yn rhydd, am fod Iesu wedi dewis y Nadolig.


Gweddi: Iesu, alla i fyth diolch ddigon i ti am dalu'r pris drosto i. Hebddo ti, baswn i ar goll. Dw i'n dy addoli fel fy Heddwch, fy Iachawr, a f'achubwr! Diolch am ddewis y Nadolig. Helpa fi i dderbyn popeth ddois ti i roi i mi, a helpa fi, wedyn, i rannu'r rhoddion hynny gyda'r byd o'm cwmpas i.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.


Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd