Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 25 O 25


Mae'r Golau wedi Dod


Mae'r Nadolig yma! Mae'n amser dathlu geni ein Gwaredwr, Iesu Grist - y Golau yn y Byd!


Yn y weithred gyntaf o greu yn Genesis, siaradodd Duw a cafodd golau a thywyllwch eu gwahanu. Ond ychydig o amser gymerodd hi i Adda ac Efa bechu, a cafodd presenoldeb Duw ei wahanu ossi wrth dyn. Ar y foment honno roedd rhaid sgwennu sori'r achubiaeth. Roedd yr angen am olau i dorri drwy'r tywyllwch nid yn unig ar gyfer gwahanu'r dydd o'r nos, ond hefyd bywyd a marwolaeth. Dymuniad mwyaf Duw oedd cael bod mewn perthynas â ni, felly anfonodd Olau i'n harwain o'r tywyllwch yn ôl ato e.


Dyma'r Nadolig: "Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd."


Ganwyd unig Fab Duw fel ein bod, gyda maddeuant pechod, yn cael ein cymodi ag e. Roedd y gwahanu a'n cadwodd yn y tywyllwch wedi'i orchfygu gan olau Iesu. Dwedodd Iesu, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”


Dydy e ddim o bwys ble rwyt ti heddiw, a beth rwyt wedi'i wneud, mae gwaredwr y Byd wedi dod er dy fwyn DI! Gad i'w olau e ddisgleirio ar y llefydd tywyll yn dy fywyd ac adnewyddu'r hyn sydd wedi'i golli'n y tywyllwch. Mae'r golau yma, ac mae e wedi datgan nad oes raid i ti fyth gerdded mewn tywyllwch eto. Derbynia ei gariad a phrofa'r Nadolig fel nad wyt wedi'i brofi o'r blaen!


Gweddi: diolch Dad am baratoi'r ffordd ers dechrau amser i ni fod yn agos atat ti eto. Diolch am anfon dy Fab, i'w eni, ac i farw, fel y gallwn i, fyw! Heddiw, wrth i mi ddathlu'r Nadolig, helpa fi i fod â gwerthfawrogiad dwfn o'th gariad tuag ataf a'r Golau ddois i'm mywyd. Dw i'n diolch i ti am ei gwneud hi'n bosibl i mi fyth gerdded mewn tywyllwch eto!


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.


Diwrnod 24

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd