Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 1 O 25


Yr Addewid Cyntaf


Oeddet ti'n gwybod bod yr addewid cyntaf wnaeth Duw am y Nadolig? Dŷn ni'n darllen yn Genesis fod y ddynoliaeth wedi'i gwahanu oddi wrth bresenoldeb Duw ar ôl i Adda ac Efa bechu am y tro cyntaf yng Ngardd Eden. Cafodd ein diniweidrwydd ei ddwyn oddi arnom ni gan bechod a chawsom ein gwneud yn aflan. Oherwydd ei fod Duw'n sanctaidd a pherffaith dydy e ddim yn gallu bod mewn perthynas a'r hyn sy'n aflan. Torrwyd calon Duw gan y gwahaniad hwn gan ei fod yn ein caru fwy na allwn ni fyth ei ddychmygu. Trefnodd Dduw gynllun ar unwaith i ailgymodi ag e. O ddechreuadau bodolaeth y ddynoliaeth roedd Iesu'n mynd i fod yn rhan o'r stori.


Gadawodd Duw i Satan wybod beth oedd i ddod. dwedodd, " Byddi di a'r wraig yn elynion. Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion. Bydd e'n sathru dy ben di, a byddi di'n taro ei sawdl e." (Genesis, pennod 3 adnod 15) Rywle yng nghoeden deuluol Efa byddai Gwaredwr yn dod i roi terfyn ar bŵer Satan i wahanu Duw a dyn. Byddai Satan yn ceisio'i stopio ond byddai'r Gwaredwr yn sathru ei ben. Does dim ffordd nôl o hynny.


Mae'r Nadolig yn ddechrau ar broses gan Dduw i adnewyddu ein perthynas ag e drwy Gyfamod Newydd. Disgwyliodd y byd am filoedd o flynyddoedd am addewid Duw o Waredwr, ac yna, o'r diwedd, roedd e yma. Daeth yr un a fyddai'n gorchfygu pechod a marwolaeth i'n plith.


Wrth i ni fynd mewn i gyfnod yr Adfent ffocysa a'r gyflawniad addewid cyntaf Duw. Sylweddola fod Duw'n cadw at ei Air, a myfyria ar y gwirionedd ei fod e'n dy garu gymaint fel ei fod wedi anfon ei Fab i gael ei eni i mewn i fyd pechadurus, fel y gallai gael perthynas gyda ti.


Gweddi: Dad, dw i'n synnu mai dy ymateb cyntaf i'n pechod oedd addo na fyddai'n ein cadw ni ar wahân am byth. Diolch am ddewis, o'r dechrau cyntaf, i anfon Iesu i wneud ffordd i ni fod mewn perthynas â ti. Wrth i ni agosáu at y Nadolig eleni, rho i mi ddatguddiad dyfnach o'r hyn wnest ti gyflawni wrth iddo e ddod i'r byd. Gad i mi brofi y llawenydd wnest ti deimlo pan anwyd Iesu a rhoi ar waith cyflawniad dy addewid.


Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.


Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o ...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd