Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 1 O 12

Duw

Y rheswm pam dw i'n cael Dewis


Mae yna gysyniad diwinyddol sy'n cael ei alw'n ewyllys rydd. Dydw i ddim yn sôn am y ffilm llwyddiannus am orca o'r nawdegau cynnar. Fodd bynnag, os welaist ti'r ffilm fe wnest ti fwy na thebyg ei mwynhau. Dw i'n meddwl ein bod yn creu storïau am ryddid oherwydd rywbeth wnaeth Duw sgwennu ar ein calonnau. Dw i'n credu fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth gyda'r gallu i dewisiadau sy'n newid canlyniadau. Gweddïodd Abraham a chafodd teulu Lot eu harbed. Dringodd Sacheus goeden a daeth Iesu i'w dŷ am noson, ac i mewn i'w fywyd am byth. Bwytaodd Adda ac Efa ffrwyth gwaharddedig a rhyddhau cyfraith pechod a marwolaeth.


Dw i bron yn 30 mlwydd oed, a dw i'n dod at ambell sylweddoliad am ddewis. Pan fydda i'n marw bydd fy mywyd ar y ddaear, fwy neu lai (ond ddim yn gyfan gwbl) wedi bod yn llawn o ddewisiadau. Bydd rhai yn ddewisiadau pobl eraill, ond bydd y rhan fwyaf yn rhai fi. Bydd fy nghorff yn gadael cliwiau am beth ddewisais i ei fwyta a pha mor aml ddewisais i wneud ymarfer corff.


Bydd canlyniadau yn fy nghyflogaeth yn pwyntio at beth benderfynais i oedd yn ystyriol a phwysig yn y byd. Bydd hydd hyder fy nau fab a dwy ferch yn adrodd stori am pa mor aml y gwnes i ildio fy ewyllys i Dduw neu ddal ati ar fy syniad i o berffeithrwydd a rheolaeth. Bydd geiriau y bobl a ddaw i fy nghynhebrwng yn rhannu'r gyfrinach am pa un ai os ddewisais i pwrpas bob dydd neu boblogrwydd. Bydd fy newis i wneud Crist yn Waredwr i mi wedi cyfeirio'r holl ddewisiadau hyn a bydd yn pennu ble bydd fy enaid ar y diwrnod hwnnw.


Dw i ddim yn dweud mai ein dewisiadau yw'r unig rym yn y byd. Byddai hynny'n ein gwneud yn Dduw. Tra bod duw, gan amlaf, yn gweithio drwom ni, mae e hefyd yn gweithio mewn ffyrdd na allwn yn naturiol ei amgyffred. Dŷn ni'n gweithio'n erbyn pwerau tywyll sy'n gwrthwynebu Duw a'n dewisiadau dwyfol. Dyma pam mae dewis yn wahanol i reolaeth. Tydi dewisiadau cywir ddim yn gwarantu'r canlyniadau dŷn ni'n eu dymuno. Rheolaeth fyddai hynny. Mae Duw yn deall hyn hefyd.


Fedrith e ddim gwneud dim o'i le, ond eto, mae cymaint o'r bobl mae e'n ei garu, yn ei wadu. Pam? Achos fe gymrodd e risg a rhoi i ni'r gallu i ddewis. Tase fe heb wneud hyn, bydden ni i gyd yn credu ynddo e a gwneud beth bynnag roedd ei eisiau. Eto, oherwydd iddo greu dewis, dw i'n cael y dewis i greu'r hyn dw i ddim yn ei weld. Dw i'n gallu cael ffydd. Ac mae'r ysgrythur yn dweud, heb ffydd, mae hi'n amhosib plesio Duw.


Falle, dyna pam wnaeth Duw gynnwys ewyllys rydd yn fy stori. Falle, fod y Duw cwbl rymus wedi rhoi dewis i ni er mwyn gwneud ffydd yn bosibl, a ffydd i wneud perthynas ar y cyd ag ef yn gredadwy, a pherthynas i wneud agosáu ato yn anorchfygol. Os dw i'n onest, dw i ddim yn sicr, ond dw i'n dewis i gredu fod Duw yn dda ac am e'n fy ngharu i.


Gweddïa: dduw, dw i ddim yn amgyffred dy holl ffyrdd, ond er gwaethaf gweld yn gyfan gwbl. dewisais i gredu'n llwyr yn dy ddaioni a chariad tuag ataf. Hoffwn wneud i fy newisiadau fod ochr yn ochr â'th ewyllys. A wnei di barhau i amlygu dy ddymuniadau i mi


Jason Inman, datblygwr cynnwys yn Life.Church


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd