Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 5 O 12

Dw i'n Dewis Ildio yn lle Rheolaeth (Rhan 2)


"Chi'n mynd i'r cyfeiriad anghywir", sgrechiodd fy merch ddyflwydd arna i a fy ngŵr o gen y car.


Dilynwyd y ffit yma gan ddagrau di-reol, ystod o eiriau trawiadol, a chefn wedi plygu gymaint â phont gefngrwm St.Louis. Er bod ein car yn mynd i'r cyfeiriad cywir ar y ffordd dŷn ni wastad yn ei gymryd, roedd y GPS wedi methu.


Camgymeriad Glasfilwr


Ond aros funud. Dw i'n gwneud hynny. Dw i fel, "Hei Dduw. dw i'n gwybod wnest ti greu y byd, ac yn bodoli tu allan i amser, ac yn ben ffrwydrol o ddoeth na allai neb ei ddychmygu, ond dw i am dynnu dy sylw at rywbeth. Ti'n mynd i'r cyfeiriad anghywir!"


Ond yden ni'n hoffi rheolaeth? Mae'n swnio'n braf i fod mewn rheolaeth, gyrru'r car, dal y meicroffon, dal gafael y newidiwr sianel, a chynllunio amserlen teithio sy'n rhydd o unrhyw ddargyfeirio, ar gyfer ein bywydau. Ond pan dŷn ni'n ceisio gwthio a dylanwadu'n ddiddiwedd ein hagenda ein hunain, dŷn ni'n colli allan ar lwybr Duw. Dim ond pan fyddwn yn rhoi mynediad lwyr iddo - pan fyddwn yn ildio ein map ein hunain - y gallwn deithio'n hyderus yn ôl ei ewyllys.


Gweddïodd Iesu, "Fel y mynni di," cyn iddo gael ei groeshoelio, a dylai ein calonnau, geiriau, a bywydau barhau ei weddi.


Fedrwn ni ddim rheoli popeth gan Dduw, ond fe allwn ymddiried ynddo. Gallwn ddibynnu ar ei sofraniaeth, yn arbennig pan nad ydyn ni'n deall yn gyfan gwbl. Gallwn roi gorau i'n gorseddau a thrystio Brenin yr holl frenhinoedd fel un sy'n deilwng. A gallwn ildio i'w arweiniad, gan wybod ei fod yn ein harwain i'r cyfeiriad cywir.


Dŷn ni bawb yn cael dewis. Yr opsiynau yw hyder yn ein deallusrwydd rhannol, neu ildio i'r un sy'n dal y map.


Gweddïa: Iesu, ti sydd yn fy arwain. Dw i'n dewis dy drystio'n gyfan gwbl. Gofynnaist i'r Tad i'w ewyllys e gael ei wneud - arwain fi i fyw'n y ffordd yna.


Jen Jewell, gwraig i aelod o'r staff a mam i ddau o blant


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd