Gwybodaeth Cynllun
Dw i'n DewisSampl
Dw i'n Dewis Cariad yn lle Cyfraith (Rhan 1)
Doeddwn i ddim yn gwybod beth o'n i'n ei wneud. Ddewisais i gwrs a llwybr at yrfa yn coleg, ond ro'n i ar goll yn berthynol. Ro'n i ynghanol cynnwrf bywyd coleg, digon o ffrindiau, digon o amser, gyda'm gilydd. Roedd gormod o gyfle i fynd allan â merched yn rhy aml. Ro'n i'n gallu gwthio ffiniau purdeb. Siawns na fyddai Duw yn rhy wallgof efo fi
Ro'n i'n meddwl mai perthynas dda oedd un lle nad o'n i'n gwneud pethau drwg. Meddwl "cyfreithiol" oedd hynny. Ro'n i'n meddwl y gallwn i fentro at y llinell o'r hyn o'n i'n feddwl oedd rhyw, cyn belled nad o'n i'n ei chroesi. Cariad Duw, ac ni y gyfraith ddylwn i fod wedi ei ddilyn. Dydy ymatal oddi wrth bethau drwg ddim byd i wneud â'm perthynas â Christ a phobl, ond am fynd ar ôl a glynu'n agos at y pethau iawn. Yn lle, ro'n i'n gwneud lot o bethau anghywir, a rhai o'r pethau cywir, ond y cwbl am y rhesymau anghywir.
Gallaf gofio gyrru yn fy nghar un noson a sylweddoli sut wnes i drin rhywun o'n i wedi'i chanlyn wnaeth ddangos sut galon oedd gen i at Dduw. Taswn i 'n gadael i gariad reoli fy mherthynas drwy wasanaethu'r person arall, eu codi, a rhoi eu hanghenion o flaen rhai fi, yna byddai hynny fel addoliad at Dduw. Byddai fel dweud, "Waw, Duw! Wnes ti job dda pan wnest ti hi. Fe wna i drysori dy greadigaeth a'i thrin gyda pharch a gofal." Roedd y ffordd wnes i ymateb yn fwy fel hyn, "Duw, dw i'n mynd i drio gwneud beth bynnag y gallaf i, heb dorri dy gyfreithiau di, iawn?" Wyt ti'n gweld gymaint mwy addolgar a phwerus yw cariad na'r gyfraith?
Dw i'n diolch i Dduw am ei gariad grasol i'm dysgu ar y pryd, achos daeth y ferch ro'n i'n ei chanlyn ar y pryd yn wraig i mi. Dau o blant a deng mlynedd yn ddiweddarach dŷn ni'n dal i ymladd i ddewis cariad yn lle'r gyfraith, bob dydd. Dŷn ni dal yn ildio i'n perthynas gael ei reoli gan gariad Duw, gan wybod fod ein priodas o ganlyniad i'w ras, gweithred o addoliad, a darlun o'i efengyl i'r byd.
Gweddïa: Dduw, ym mha ran o'm mywyd y mae pwyslais ar dy gyfraith yn hytrach nag wedi'i ysbrydoli gan dy gariad? Ysbryd Glân, wneid di roi i mi y nerth i ffeirio'r ddau?
Joey Armstrong, Gweinidog LifeGroups a LifeMissions yn Life.Church
Am y Cynllun hwn
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...
More