Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 2 O 12

Dw i'n Dewis Pwrpas yn lle Poblogrwydd


Roedd fy ngwraig a minnau wedi bod yn briod am naw mlynedd. Rhai yn dda, gan amlaf yn ddrwg. Gan amlaf, fi oedd ar fai. Doeddwn i ddim wedi dewis byw fy mywyd fel Cristion, heb sôn am fel gweinidog.Ond, dyna ble ro'n i, 6 mis i fewn i ddilyn Crist gyda awch llethol i gamu i mewn i weinidogaeth mewn eglwys. Ar y pwynt hwn roedd fy ffydd wedi gwella fy mhriodas, ond roedd gen i gyfrinach - un o'n i'n feddwl fyddai'n fy ngwneud yn amhoblogaidd gyda'm gwraig, a falle fy eglwys. Roedd rhaid i mi ddweud wrthi hi am y cariadon ar y slei


Ro'n i'n ddi-glem. Beth fyddai pobl yn meddwl ohono i? Sut allwn i weithio i eglwys? Bydd Cristnogion yn fy nghasáu. Bydd hi'n fy nghasáu. Ond, yn ei ddaioni, helpodd Duw fi i weld mai fy nghyfrinach oedd unig arf y gelyn yn fy erbyn. Lladda'r gyfrinach. Disrfoga'r gelyn. Felly, ddwedes i wrthi hi am fy nghyfrinach.


Alla i ddweud, doedd e ddim yn hawdd. Ond does dim rhaid i mi ddweud ei bod roedd e'n werth gwneud. Fe wnaethon ni'n llawen, ddathlu pymtheg mlynedd o briodas y mis hwn, a dw i ar fin cwblhau pedair mlynedd ar y staff fel gweinidog yn Life.Church.


Falle bod gen ti gyfrinach. Does dim rhaid iddo fe fod am dy bechod. Falle fod gen ti freuddwyd gudd dwyt ti ddim yn ei dilyn, neu falle bod rhywun wedi gwneud rywbeth i ti. Yn ddwfn, mae gen ti ofn bydd rywun yn dod i wybod am y peth. Dw i wedi bod yna. Does dim rhaid i ti fyw gyda'r ofn yna. Mae Duw yn fwy na dy gyfrinach. Gall e dy helpu i ddinistrio'r gyfrinach, diarfogi'r gelyn, a chysegru'r rhan hwnnw ohonot i'w bwrpas.


Falle, fel o'n i, rwyt ti'n poeni am wneud dewis sy'n ymddangos yn amhoblogaidd. Dyma d fy ngweinidog i, Craig Groeschel, yn ei ddweud, "Bydd byw am gymeradwyaeth pobl yn dy gadw rhag byw er mwyn Duw." Mi fedra i'n bersonol, dy sicrhau, pan fyddi di'n dewis ei bwrpas yn lle dy boblogrwydd, rwyt yn y gofal gorau. Mae e'n gwybod beth mae e'n wneud. Mae Duw wedi defnyddio fy stori i weinidogaethu i nifer o bobl oedd yn stryglo gydag anffyddlondeb. Mae e eisiau defnyddio dy stori di hefyd.


Gweddïa: Ysbryd Glân, rho i mi'r hyfdra i fynd yn gyhoeddus gyda'r gwir. Helpa fi i ymddiried fy mywyd i ddwylo llawn pwrpas Duw.


Jon Mays, Gweinidog Cysylltiol y Campws yn Life.Church


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd