Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 6 O 12

Dewis Ildio yn lle Rheolaeth (Rhan 3)


Dw i'n chael hi'n anodd iawn hoffi'r stori am Abraham bron yn aberthu ei fab, Isaac. Dyna fi, dw i wedi dweud e.


Mae e. fwy na thebyg, y gorchymyn mwyaf rhyfeddol a dryslyd i Dduw ei roi erioed. Cofia, wnaeth Duw addo Isaac i Abraham. Byddai Isaac yn gwneud disgynyddion Abraham mor niferus â'r sêr (addewid arall), a byddai linach Isaac, ymhen amser, yn arwain at Fab Duw, Iesu.


Yna, dyna i ti'r mater o aberthu plentyn. Oedd Duw yn gwybod fod hyn yn mynd yn erbyn y moesoldeb roedd wedi'i ddysgu i'w bobl? Dyma beth oedd crefyddau paganaidd yn ei wneud ar gyfer eu duwiau paganaidd. A oedd Duw yn gwybod beth roedd yn ofyn amdano?


Mewn ennyd gadawodd y stori argraff arna i yn yr eiliadau o'n i'n cuddio pechod. Roedd Duw wedi fy mendithio i tu hwnt i bob amgyffred a gosod llwybr o'm blaen, tu hwnt i bob dychymyg. Ond, roedd fy ffyrdd fy hun yn bygwth y cyfan. Ro'n i'n bron ag anobeithio gan mod i eisiau ffordd i gyffesu heb ddioddef beth ro'n i'n feddwl fyddai cosb Duw.


Rhoddodd stori Abraham bersbectif newydd i mi. Ydy Duw mor genfigennus am un unigolyn fel y byddai'n newid ei gynlluniau, dim ond i'w arbed e?


Er mawr syndod, mae'r stori hon yn ymddangos fel ei bod yn ateb, byddai. Roedd Duw eisiau gwybod oedd calon Abraham ganddo. Wnaeth hynny ddenu fy sylw.


Wrth i mi ddelio â'r stori hon, roedd fel petai Duw yn sibrwd yn fy nghalon, "Gosoda dy freuddwydion, dy ddyfodol ar yr allor. Dydyn nhw'n ddim o'i gymharu â tragwyddoldeb gyda fi."


Ufuddhaodd Abraham i Dduw. Aeth i fyny'r mynydd, clymu ei fab ar yr allor, a chodi'r gyllell. Yna, dangosodd duw drugaredd. Stopiodd Abraham rhag niweidio ei fab, darparu hwrdd i aberthu, a'i fendithio am ei ffyddlondeb. Dw i wedi cerdded ar hyd taith tebyg iawn.


Weithiau, dŷn ni'n byw fel petai Duw yn disgwyl i ni gyffesu ein pechodau, neu ildio rheolaeth, fel ei fod e'n gallu ein cosbi. Ond, nid hynny yw e o gwbl. Pan dŷn ni'n barod i ildio popeth a'i ddilyn e, mae e'n tosturio wrthym, rhoi ei Fab yn aberth drosom, ac yn ein bendithio am ein ffyddlondeb.


Gweithreda: Pa gam penodol sy'n rhaid i ti ei gymryd i roi dy freuddwydion, pryderon, cyfrinachau, neu addewidion ar yr allor o flaen Duw?


Audra Blake, Gwneuthurwraig Ffilmiau yn Life.Church


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd