Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 7 O 12

Dw i'n Dewis Pŵer yn lle Perffeithrwydd


"Yr hyn sy'n dod i mewn i'n meddyliau yw'r peth pwysicaf amdanom." A.W.Tozer

Pan ddois i'n ddilynwr i Grist roedd gen i olwg di-ras o Dduw. Ro'n i'n credu bod iachawdwriaeth angen pryniant dyddiol ble y byddwn i'n cael gwared o'm pechodau gyda mwy o ras. Os o'n i'n methu un pechod, byddai Duw yn fy nal i'n atebol. Roedd y gred honno'n fy nghaniatáu i fod ar ben fy nigon pan o'n i'n meddwl mod i'n cyrraedd disgwyliadau Duw, a syrthio i bwll ofn pan o'n i'n gwneud camgymeriad.


Roedd y cylch di-ddiwedd hwn yn fy nhal ar melin droed oedd yn ailadrodd ei hun: edifarhau, llawenhau, syrthio, ac atgasedd. Roedd y cysyniad anghywir hwn o Dduw yn fy nghadw rhag aeddfedu ac fe'm gorfodwyd i ymladd brwydr drist yn erbyn fy mhechod, roedd Iesu eisoes wedi'i hennill. Pan sylweddolais i hyn gyntaf, ro'n i'n teimlo mod i wedi buddsoddi gormod o amser i mewn i'r melin droed o hunanddibyniaeth i ddod â'r arfer i ben. Falle mod i wedi perffeithio rhannau o fy ffydd a doeddwn i ddim eisiau ildio'r holl waith hwnnw.


Diolch i'r drefn, wrth i'r Ysbryd Glân amlygu mwy i mi am ras Duw, ymhen amser, sylweddolais nad oedd fy holl waith i geisio boddhad Duw ddim werth ei arbed o gwbl. Sylweddolais na allwn ychwanegu at ras, ac os na fyddwn i'n pechu fyth eto - a gwneud popeth yn iawn - faswn i fyth yn haeddu maddeuant Duw.


Fe wnaeth Effesiaid, pennod 2, adnod 10 fy nharo oddi ar gefn y melin droed, unwaith ac am byth. Ces i fy nghreu i bwrpas penodol! Dewisais, o'r diwedd, i dderbyn maddeuant Iesu yn gyfan gwbl fel mod i'n gallu mynd ati gyda gwaith llawer pwysicach. Falle dt fod yn credu'n Iesu, ond wyt ti wedi derbyn yn gyfan gwbl yr hyn wnaeth e drosot ti? Mae'r Ysbryd Glân yn dal i fy helpu i ddewis ei bŵer e, yn lle fy mherffeithrwydd, ac mae e'n fy arwain tuag at aseiniadau curadol unigryw ar hyd y ffordd - pethau na faswn i fyth wedi'u gweld o'm melin droed.


Gweddia: Ysbryd Glân, wnei di fy helpu i gefnu ar berffeithrwydd trist a phrofi maddeuant tyner Duw a'i ras pwerus yn fy holl fywyd? Wnei di fy helpu i ddangos yr un peth ym mywyd eraill?


Michael Martin, datblygwr gwefan yn YouVersion


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd