Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 8 O 12

Dewis Disgyblaeth yn lle Difaru


Rho dro ar hwn efo fi. Meddylia am ble mae dy fywyd gweddi. corfforol, ariannol neu deuluol. Nawr, meddylia am ble hoffet ti iddo fe fod. Beth sydd rhwng y ddau? Os wyt ti'n normal, mae yna fwlch, gwarthus, Yr un bwlch yw e pan nad yw'ein tu allan yn cydweddu gyda'n tu mewn. Y bwlch rhwng adnabod y gwir ac ymgorffori'r newid. Dyma'r bwlch rhwng disgyblaeth ac edifarhau.


Pan oedd fy merch hynaf yn bedair oed, ro'n i wedi bod yn y weinidogaeth am tua saith mlynedd. Ro'n i wedi symud ffwrdd o roi fy hun i ran o'm mywyd oedd gymaint pwysicach na fy swydd fel gweinidog; fy mhlant. Y gwrthwyneb i symud ffwrdd yw disgyblaeth. Gwneud dim byd fyddai dewis difaru creu ystadegyn oedd yn"blentyn gweinidog" arall.


doeddwn i ddim yn deffro bob bore yn meddel, "Dw i eisiau bod yn dad gwael." Ond doeddwn i ddim yn deffro bob bore 'chwaith ac yn dewis llenwi'r bwlch. Felly fe wnes i benderfyniad. Dewisais i ddisgyblaeth. Dewisais wneud rywbeth bob wythnos am y 18 mlynedd nesaf gydag o leiaf un o'm tair merch. Efallai mai dyddiad, nodyn, neu gair o gadarnhad, ond yn sicr yn rywbeth allan o'm ffordd. Pam? Achos roedd hi'n anodd os o'n i'n ddi-dymud.


Mae Diarhebion, pennod 25, adnod 28 beibl.net yn dweud y cyfan, "Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymer[disgyblaeth] fel dinas a'i waliau wedi'u bwrw i lawr." Heddiw, mae fy nhair merch yn caru Iesu a'r eglwys. Mae dau mab-yng-nghyfraith yn weinidogion llawn amser. Dw i mor falch fod yr Ysbryd Glân wedi fy ysbrydoli a'm hawdurdodi i ddewis disgyblaeth yn lle bod yn edifar.


Gweithreda:Ble mae'r bylchau'n dy fywyd? At pa ddisgyblaeth mae'r Ysbryd Glân yn dy arwain er mwyn newid?


Ronnie Brumley, gweinidog campws yn Life.Church


Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fy...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd