Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 8 O 8

Y SABOTH A GOBAITH


MYFYRDOD


"Fedra i ddim disgwyl i ymddeol,” oedd un o hoff frawddegau un o’m ffrindiau, er ei fod hanner o ddifri, er bod ganddo ddegawdau cyn allai hyd yn oed obeithio y byddai’n gallu gwireddu ei freuddwyd. Gall “Brysied ddydd ymddeoliad!” weithiau, ddiffinio ein hagwedd pan dŷn ni’n meddwl am yr hyn gafodd ei addo i ni pan ddaru ni roi ein bywyd i Dduw, Gwlad yr Addewid sy’n ein disgwyl ar ôl marwolaeth. Gall ymddangos yn bell iawn pan fyddwn yn meddwl am fywyd fel taith flinedig yn yr anialwch.



Fodd bynnag, mae awdur y Llythyr at yr Hebreaid yn ein gwthio i fynd i mewn i “le saff hwn lle cawn ni orffwys” (Hebreaid 4:11). “Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw.” (Hebreaid 4:9), “sy’n golygu bod yna orffwys ysbrydol y mae Duw yn ein galw ato” (Johannes Calvin). Felly, mae rhywbeth o orffwys Saboth sydd eisoes ar gael i ni fel rhagolwg o'r hyn a fydd yn realiti ac a fydd yn parhau ac yn cynyddu deg gwaith yn y tragwyddoldeb a addawyd.



Yn Hebreaid 4 mae "gorffwys" yn cyfeirio at le a addawyd yn y dyfodol, gwlad ddiogel a gogoneddus i bobl Dduw, yn ogystal â chyflwr presennol sy'n gysylltiedig â'r gweddill a greodd Duw ar ôl gorffen ei greadigaeth a dathlu ei waith. Mae'n Wlad yr Addewid o laeth a mêl ac yn foment o gyd-orfoleddu ym mhresenoldeb Duw. Un diwrnod byddwn yn cyrraedd pen ein taith, yn union fel y cyrhaeddodd pobl Dduw Wlad Canaan. Ac eto, o’r dydd hwn ymlaen ac yn enwedig heddiw, cawn ein gwahodd i gael blas ar y gorffwys hwn a throi at Dduw i ryfeddu at ei ogoniant, i gael ein hatgoffa o’i waith ac i drystio ynddo e. Mae'r rhan olaf yn hollbwysig oherwydd bod awdur Hebreaid yn rhybuddio'r darllenydd, yn union fel yr Israeliaid wedi colli'r cyfle i fynd i mewn i Wlad yr Addewid yn Cadesh-barnea, y gallwn golli ein cyfle pan galedwn ein calonnau. Trwy drystio yn Nuw a dewis gwneud hynny o ddydd i ddydd, bydd gorffwys y Saboth yn mynd gyda ni o'r dydd hwn ymlaen nes iddo ddod i mewn i'w wir ffurf yn ei bresenoldeb tragwyddol.



Dylen ni ddim bod yn anwybodus yn ein haddoliad, ond addoli Duw mewn Ysbryd a gwirionedd. Darllena’r Beibl a gwranda ar lais Duw. Darllena’r Beibl a gweld Iesu. Darllena’r Beibl a derbynia nerth yr Ysbryd Glân.



CWESTIYNAU I’W MYFYRIO





  • Beth mae gorffwys ysbrydol yn ei olygu i mi?


  • Sut mae fy amserau Saboth yn meithrin fy ngobaith?

  • Oes agweddau yn fy mywyd sydd wedi fy arwain i galedu fy nghalon?




CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW





  • Dŷn ni’n gweddïo y bydd Duw yn rhoi gorffwys i ni.

  • Gweddïwn am faddeuant am yr amseroedd y byddwn gadael i’n calonnau galedu ac yn troi cefn ar Dduw.

  • Gweddïwn am faddeuant ac am ei addewid i roi mynediad i ni i Wlad yr Addewid, man gorffwys a’r man lle bydd e’n treulio tragwyddoldeb gyda ni.

  • Gweddïwn am gymorth i annog ein gilydd i fod yn esiampl dda o deyrngarwch i’r genhedlaeth nesaf.



TESTUNAU GWEDDI



O Dad, dw i’n trystio ynddo ti, er fy mod yn yr anialwch, oherwydd gwn yr arweini di fi i'th orffwysfa, i'th bresenoldeb diogel a gogoneddus. Dw i am fyw yn dy bresenoldeb i dderbyn y gobaith hwn a gorffwys Saboth bob dydd. Amen.








Michael Mutzner, Cynrychiolydd Parhaol yn y CE Yn Geneva, Cynghrair Efengylaidd y Byd, Y Swistir.

Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd