Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 4 O 8

Y SABOTH A THOSTURI


MYFYRDOD


Wnaeth Duw ddim darparu'r Saboth yn ddeddf yn ein HERBYN, ond fel gweithred o dosturi tuag ATOM. Dyna pam roedd y disgyblion yn cael bwyta pennau grawn am eu bod yn llwgu ar y Saboth (Mathew 12:1-8). Dyna pam y cafodd y dyn â'r llaw ddiffrwyth ei iacháu ar y Saboth (Mathew12:9-13). Gwelodd Iesu newyn y disgyblion a diflastod y dyn a chafodd ei gyffwrdd gan hynny. Mae'r Saboth yn ddiwrnod i faeth ac iachâd. Dydy gwahardd gweithredoedd (“gwneud dim”) na gofyniad gweithredoedd (“offrwm aberth”) yw pwrpas y Saboth. Prif amcan y Saboth yw dangos i ni dosturi Duw.



Yn yr Hen Destament mae'r Saboth yn fynegiant o'r cyfamod rhwng Duw a'i bobl, fel y mae enwaediad. Mae'r Saboth yn ddiwrnod o orffwys, o edrych i fyny at Dduw a rhyfeddu at ei dosturi a'i sancteiddrwydd. “Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. (Exodus 31:13). Mae pobl Dduw yn derbyn trugaredd Duw, maen nhw’n cael eu “trwytho” ganddo, ac maen nhw wedyn yn ei drosglwyddo fel bendith i'r byd i gyd.



Pan ddown at ein gilydd ar gyfer addoliad a chymdeithas, pan fyddwn yn gwrando ar lais Duw ac yn siarad ag e, dŷn ni’n torri allan o'n bywyd bob dydd ac yn dathlu ei dosturi. Yn yr eglwys mae'r meddylfryd am berfformiad economaidd, yn ogystal â'r meddylfryd o fod yn adloniadol, yn chwalu. Felly, nid yw gwasanaeth eglwysig yn fusnes nac yn sioe, nac yn ymdrech grefyddol nac yn ddefnydd crefyddol. Mae'n llawer mwy na hynny. Mae’n fan lle gall ein heneidiau orffwys a lle dŷn ni’n profi trugaredd Duw. Yn yr eglwys, mae Duw yn gweinidogaethu i ni gyda'i dosturi. Bydd pwy bynnag sy'n derbyn trugaredd Duw yn dod yn un sy’n trugarhau. " Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig.." (Luc 6:36).



Trwy rodd trugaredd, mae Duw yn ein paratoi ni i fyw a gweithredu'n drugarog, i wneud daioni i'n gilydd. Mae adnod y dydd yn ein hannog i roi Iesu roi Iesu yn gyntaf yn y byd hwn.



CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW



  • Myfyria ar y canlynol: Dydy Duw ddim wedi rhoi'r Saboth fel cyfraith yn ein HERBYN NI, ond yn hytrach fel gweithred o dosturi AR ein cyfer ni.

  • Sut gallaf brofi trugaredd Duw gafodd ei ddangos yn y Saboth mewn perthynas â Duw ac mewn perthynas â’r bobl o’m cwmpas?

  • Pa newid bach fedra i'w wneud er mwyn rhoi blaenoriaeth i dosturi Duw ar y Saboth - - fel unigolyn, yn y teulu, yn yr eglwys?


TESTUNAU GWEDDI



  • Dŷn ni’n gweddïo am amser i ffocysu ar Dduw. Dŷn ni’n torri allan o’n ffordd arferol o feddwl sy’n ffocysu ar berfformiad a chymryd. Dŷn ni’n gofyn i Dduw am dosturi (Kyrie eleison - Arglwydd bydd drugarog!).

  • Dŷn ni’n gofyn maddeuant am yr amseroedd hynny pan drodd gwasanaethau yn weithredoedd crefyddol, yn lle profiad o Dduw.

  • Dŷn ni’n gofyn dros bawb sy’n pregethu Gair Duw, a bod neges dosturiol Duw yn cael ei glywed a’i dderbyn.

  • Dŷn ni’n gweddïo i Dduw agor ein llygaid, fel ein bod yn gallu bod yn dosturiol i’n cymdogion, fel y mae e wedi bod yn dosturiol tuag aton ni.

  • Dŷn ni’n gweddïo i’r Ysbryd Glân ddangos i ni sut gallwn roi Duw yn y canol a gofalu am y greadigaeth gyfan.


AWGRYM GWEDDI


Dduw trugarog, molwn a dathlwn di! Addolwn di. “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Arglwydd Dduw Seboath (hollalluog)”, gweddïwn gyda byddin yr angylion.


Maddeua i ni am fod yn hunan-ganolog a chanolbwyntio ar ein gweithgareddau, pan ddylem fod wedi canolbwyntio arnat ti. Adfywia ein gwasanaethau eglwysig â’th Ysbryd Glân, er mwyn i ni dy gwrdd o’r newydd, ac i’n calonnau gael eu trawsnewid gan dy dosturi. Bendithia bawb sy'n pregethu Gair Duw. Agor ein llygaid a’n calonnau i anghenion ein cymdogion a’n cymdeithas. Rho i ni syniadau a dewrder i fuddsoddi’n drugarog yn dy eglwys a’r byd. Amen.







Lea Schweyer, Llywydd Adran y Cynghrair Efengylaidd Riehen-Bettingen, y Swistir.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd