Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 6 O 8

Y SABOTH A LLAWENYDD


MYFYRDOD


"Beth i’w wneud ar y Sul? 50 o syniadau i ymladd diflastod!"


Mae cylchgrawn yn trio denu dy sylw gyda’r pennawd yma. Mae’r diwrnod o orffwys yn cael ei orlenwi gyda gweithgareddau llawn hwyl neu dripiau llawn antur. Y prif nod yw, i brofi rhywbeth sy’n rhoi mwynhad. Fodd bynnag, fedrith llawenydd ddim cael ei amgyffred. Gall profiadau pleserus a hapus gael eu hailadrodd, ond, cyn gynted ag y byddan nhw wedi diflannu, bydd yr emosiynau sy'n cyd-fynd â nhw yn diflannu hefyd. Yr hyn sydd ar ôl yw'r hiraeth am fwy o'r profiadau hyfryd hynny. Mae ein byd yn crïo allan am hapusrwydd a geir mewn profiadau. Ac eto, sut mae cyflawni'r awydd hwn am lawenydd a hapusrwydd drwy drio dal dy wynt? A beth sy'n digwydd pan fydd cwmwl poen a thristwch yn tywyllu'r profiadau rhyfeddol hynny? Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn syml ac yn heriol ar yr un pryd.



Pe bai llawenydd yn gysylltiedig â phrofiadau hyfryd a hapus a roddwyd gan Dduw yn unig, fyddai e ddim yn llawenydd go iawn. Mae'r llawenydd y mae Duw yn ei roi i ni trwy'r Saboth yn llawer dyfnach ac ni ellir byth ei gymryd i ffwrdd. Mae'n rhoi lle ac amser i ni ar gyfer cwmnïaeth ag e. Pan fyddwn ni'n agos at Dduw, mae llawenydd go iawn yn dod yn amlwg; mae'r math hwn o lawenydd yn rhagori ar unrhyw awydd posibl am unrhyw lawenydd arall. Gallwn gael ein llenwi â llawenydd dwys ym mhresenoldeb Duw, er bod ein henaid yn crïo. Mae’r llawenydd arbennig hwn yn rhoi persbectif newydd i ni ac yn rhoi cefnogaeth i ni ar adegau o adfyd. Mae’n llifo’n uniongyrchol o galon Duw i’n calonnau ac mae’n fynegiant o’i gariad e tuag aton ni.



Os wnaeth Duw ei hun lawenhau yn ei greadigaeth ar y seithfed dydd, pa faint mwy y mae cennom ni reswm i lawenhau, wrth i ni bartneru ag e yn ei Deyrnas? Pan sylweddolwn fod ein bywydau yn nwylo Duw cwbl sofran, a bod popeth sydd gennym ni ac sydd ei angen arnon ni i'w gael ynddo e, dim ond llawenhau all ein calonnau. Dyma ystyr gwir Saboth.



Oherwydd y llawenydd y mae e’n ei roi i ni ac sydd gennym ni ynddo e, gallwn fwynhau rhoddion Duw gymaint mwy dyfnach; anrhegion fel, cerdded ac edmygu creadigaeth Duw, mwynhau gyda ffrindiau, neu ddathlu gyda’r teulu cyfan. Does dim rhaid i ddydd Sul fod yn ddiwrnod o wadu. Falle y gallwn ei fwynhau fel diwrnod o gymdeithasu a dathlu.



CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW




  • Sut mae mynegi fy llawenydd o Dduw ar y Sul?


  • Mae’r Beibl yn dweud byddwch: " yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!”" (Nehemeia 8:10) Ai llawenydd yr Arglwydd neu fy amgylchiadau sy'n diffinio fy nerth a'm gallu?


  • Fedra i fwynhau rhoddion Duw b fod eisiau mwy?



TESTUNAU GWEDDI



  • Dŷn ni’n gweddïo fod Duw ddangos i ni o'r newydd sut i fwynhau'r Saboth gydag e

  • Dŷn ni’n gweddïo am lawenydd nefolaidd sy’n adfywio ein bywydau, er gwaethaf ein sefyllfaoedd.

  • Dŷn ni’n gweddïo fod y Saboth yn cael ei nodweddu gan yr Ysbryd Glân sy'n ennyn llawenydd y tu mewn i ni.
  • Dŷn ni’n gweddïo fod ein heglwysi yn dathlu gyda phŵer o lawenydd helaeth.

  • Dŷn ni’n edifarhau am yr holl adegau hynny pan wnaethon ni ganolbwyntio ar ddoniau Duw a cholli golwg ar Dduw, y rhoddwr.

AWGRYM GWEDDI


Arglwydd, diolchwn i Ti oherwydd dy bresenoldeb di yw’r cyfan sydd ei angen arnom. Ynot ti cawn lawenydd yn helaeth. Dŷn ni’n troi ein golwg atat ti i'th foliannu di, oherwydd ti yw ein Duw a'n brenin. Diolch i ti am ddangos i ni sut y gallwn dy anrhydeddu a'th ddathlu ar y Saboth. Diolch i ti am ddal ein bywydau yn dy ddwylo ac mai ti yw ffynhonnell ein hapusrwydd. Amen.








Deborah Zimmermann, Cyfarwyddwr Sianel Gweddi 24-7,Y Swistir.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd