Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 7 O 8

Y SABOTH A HAELIONI


MYFYRDOD



Mae gan bob un ohonon ni ddyhead am sancteiddrwydd a chyfanrwydd. Dŷn ni’n dymuno cael bywyd llawn daioni a hiraeth am gymdeithas "gyflawn", am fyd delfrydol. Mae gorchmynion y Saboth yn cynnwys mwy na'r cyfarwyddyd i gael un diwrnod i ffwrdd bob wythnos. Gyda’r alwad i ddathlu blwyddyn y Jiwbilî, mae Duw yn rhoi rhagflas i’w bobl ddewisol o sut beth fydd sancteiddrwydd tragwyddol – rhagflas o’r Saboth tragwyddol.



Mae llyfr Moses a’r Testament Newydd yn sôn am y Saboth a blwyddyn y Jiwbilî fel ffordd i gynnal haelioni, cyfiawnder, ac adferiad ymhlith pobl Dduw. Roedd pob teulu llwythol yn dibynnu ar fod yn berchen ar ddarn digonol o dir i ddarparu ar gyfer pob aelod o'r gymuned.



Ar y naill law, mae gorchmynion y Saboth yn ein cynnal ni fel unigolion. Maen nhw’n ein helpu ni i ddod o hyd i orffwys o’r gwaith ac i ddod o hyd i amser i addoli Duw, tra ar yr un pryd mae ein gwaith yn darparu ar gyfer ein hanghenion dyddiol. Ond hyd yn oed yn fwy na'n helpu ni fel unigolion, mae gorchmynion y Saboth yn canolbwyntio ar fyw fel cymuned. Mae’r gorchmynion yn dangos i ni sut le yw Duw a sut dŷn ni fel bodau dynol – ac yn enwedig fel Cristnogion – yn cael ein creu i fyw mewn cymuned. Dylai ein bywydau, sy’n debyg i’w gilydd,, gael eu nodweddu gan haelioni fel symbol o ras Duw, dŷn ni ein hunain wedi’i brofi. Dylai ein bywydau gael eu nodweddu gan gyfiawnder, dŷn ni’n ei wneud i fod ar gael i eraill, oherwydd bod Duw yn Dduw cyfiawnder. Dylai ein bywydau hefyd gael eu nodweddu gan adferiad, trwy helpu pobl o'n cwmpas i gymryd eu lle mewn cymdeithas ag urddas. Y dyddiau hyn nid yw o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn berchen ar lain o dir. Yn lle hynny, gallwn ymrwymo ein hunain i gefnogi eraill i gael swydd, cael lle byw da a bywyd cymdeithasol iach.



Mewn byd sydd wedi’i globaleiddio, mae ein cymdogion hefyd yn cynnwys pobl sy’n byw ledled y byd. Mae'n rhaid i ni ystyried canlyniadau ecolegol ein ffordd o fyw. Pan fyddwn yn trin adnoddau naturiol a'r hinsawdd gyda pharch a gofal, byddwn yn galluogi bywyd a Saboth yn Affrica, Asia, a gweddill y byd. Nid yw haelioni yn cydnabod unrhyw ffiniau daearyddol.


CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW



  • Ydw i’n bersonol wedi profi haelioni, cyfiawnder, neu adferiad trwy bobl eraill?

  • Beth dŷn ni’n ei ddysgu am Dduw pan fydd pobl yn hael, yn brwydro yn erbyn anghyfiawnder, ac yn helpu i adfer urddas pobl eraill?

  • Sut medra i brofi gorchmynion y Saboth – ar wahân i orffwys – fel cyfle i gael cyfiawnder cymdeithasol?

  • Ym mha agwedd o fy mywyd allaf i ymarfer haelioni mewn ffyrdd newydd?


TESTUNAU GWEDDI



  • Dŷn ni’n gweddïo dros bobl sy’n profi anghyfiawnder mawr.

  • Dŷn ni’n gweddïo dros rai sydd ar gyrion cymdeithas sy'n dymuno bywyd gydag urddas.

  • Dŷn ni’n gweddïo y bydd yr eglwys yn adlewyrchu haelioni a chyfiawnder Duw.

  • Arglwydd, dangos i mi sut y gallaf rannu Dy gyfiawnder a'th haelioni yn fy mywyd dyddiol.


AWGRYM GWEDDI


Diolch i ti, Dad Nefol, am dy haelioni anfesuradwy i ni. Mae'n diweddu gyda thi’n rhoi dy Fab i farw droson ni. Nid yn unig y mae e wedi dangos i ni dy ras a'th gyfiawnder trwy ei fywyd ar y ddaear, ond ef wnaeth hi’n bosibl i ni dderbyn dy ras a'th gyfiawnder trwy farw ar y groes a thrwy Ei atgyfodiad ar y Pasg.



Rho i ni ddoethineb a phŵer trwy’r Ysbryd Glân i fyw bywyd o haelioni a chyfiawnder. A helpa ni i ofalu am dy greadigaeth oherwydd cafodd ei wneud ar dy ddelw di. Rho lygaid inni weld y rhai sydd angen eu hadfer fel y gallwn fod yn sianelu dy gariad heddiw. Amen.







Marc Jost, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair Efengylaidd y Swistir (y rhan sy’n siarad Almaeneg), y Swistir.


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd