Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 3 O 8

Y SABOTH A GORFFWYS


MYFYRDOD



Pan o’n i'n blentyn, roedd gen i ffrogiau dydd Sul. Byddwn yn eu gosod allan nos Sadwrn, a ro’n yn gwybod mai yfory oedd y Sul. Gyda hynny daeth gorffwys. Yn y bore mynychais yr ysgol Sul gyda fy mrodyr a chwiorydd. Drwy gydol y prynhawn, byddai fy rhieni yn treulio amser gyda ni. Fe wnaethon ni chwarae gyda'n gilydd, creu cerddoriaeth, neu fynd i heicio. Heddiw, dw i’n ddiacones, a dw i’n dal i wisgo ffrog arbennig ar y Sul.



Mae Iddewon hynafol a Christnogion wedi gwybod am yr egwyddor o orffwys ac oedi ar y Saboth ers miloedd o flynyddoedd. Mae'n tarddu o stori'r greadigaeth pan orffwysodd Duw ar y seithfed diwrnod ar ôl chwe diwrnod o greu. Ers atgyfodiad Iesu, mae’r diwrnod ar ôl y Saboth yn diffinio rhythm bywyd ar gyfer y gymuned Gristnogol oedd yn dod i’r amlwg. Y diwrnod hwnnw, daethon nhw at ei gilydd i addoli a chymdeithasu.



Rhoddodd Duw ddiwrnod o orffwys inni - y Sul - fel ymyriad defnyddiol i’n bywydau prysur a’n diwylliant. Nid yw diwrnod y gorffwys yn rhwym i un diwrnod penodol o'r wythnos, ond dylid ei wahaniaethu oddi wrth y dyddiau eraill. Mae'r Saboth yn ein hatgoffa bod ein gwerth fel bodau dynol yn seiliedig ar fwy na dim ond ein cyflawniadau. Yn briodol iawn dwedodd y meddyg a’r diwinydd Albert Schweitzer: “Pan fydd eich enaid yn brin o ddydd Sul, bydd yn gwywo.”



Dŷn ni’n penderfynu drosom ein hunain pan fyddwn yn cynnal y diwrnod hwnnw o orffwys. Mae'n cymryd amser i lonyddu. Os bydda i’n arllwys dŵr budr i mewn i wydr, bydd y baw yn setlo ar ôl peth amser a bydd y dŵr yn troi’n glir. Mae wedi dod o hyd i lonyddwch. Pan fyddwn yn chwilio am orffwys mewn distawrwydd, bydd ein heneidiau yn ffeindio llonyddwch hefyd. Bydd llawer o'n meddyliau dyfnaf yn dod i'r wyneb, meddyliau y gallwn eu dwyn at Dduw.



Bob dydd dw i'n neilltuo hanner awr yn ymwybodol. Dw i'n mynd i le nad oes unrhyw darfu arnaf. Dw i'n dod gerbron Duw, gerbron Iesu, yn union fel yr wyf. Mae'n fy nisgwyl i. Dw i'n troi fy sylw at i mewn, at fy anadlu, ac yna dw i'n troi fy sylw at fy meddyliau a'm hemosiynau. Beth bynnag sy'n fy symud, dw i'n dod o'i flaen gyda phob anadl newydd. Gad fynd a gad i Dduw. Dw i'n cymryd fy amser ac yn gorffen gyda gweddi o ddiolch.



Gwahoddodd Iesu i’w ddisgyblion: "Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.." (Marc 6:31a) Nawr, mae e’n ein gwahodd ninnau i wneud yr un peth.



CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW

  • Beth sy’n fy nghadw rhag cymryd amser i ffeindio tawelwch a gorffwys?

  • Ydw i'n meiddio ystyried treulio diwrnod heb newyddion na ffôn?

  • Mae Duw wedi bendithio a sancteiddio'r seithfed dydd. Ydw i'n dal i ystyried y Sul yn sanctaidd? Ydw i'n teimlo ei fendith dros y Sul?


TESTUNAU GWEDDI



  • Dŷn ni’n gweddïo am ras i oresgyn ein hofn o dawelwch ac i allu jyst bod.

  • Dŷn ni’n gweddïo am y dyhead yn ein calonnau i bresenoldeb Duw aros yn fyw a’n bod yn neilltuo amser ar ei gyfer yn ein bywyd bob dydd.

  • Dŷn ni’n gweddïo am y pethau anesboniadwy sy’n dod i’r wyneb o ddyfnderoedd ein calonnau pan fyddwn yn tawelu. Dŷn ni’n gweddïo na fyddwn yn eu hanwybyddu ond yn meiddio eu cydnabod gerbron Duw.
  • Dŷn ni’n gweddïo am ddoethineb ac amddiffyniad ar gyfer yr eiliadau mewn distawrwydd pan gawn ein cyffroi gan Air Duw.

  • Dŷn ni’n gweddïo dros eglwysi a chapeli, mannau gorffwys, i fod yn fannau lle mae pobl yn clywed Gair Duw.

  • Dŷn ni’n gweddïo dros y rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u llethu gan waith a chyfrifoldebau ac yn methu â gadael y pwysau hynny ar ôl.



AWGRYM GWEDDI


Dyma fi ger dy fron di, Dduw, yn union fel yr wyf: wedi gorffwys neu dan straen, yn wag ac wedi sychu, neu wedi fy llenwi â diolchgarwch, yn llawn hiraeth, neu heb unrhyw bersbectif.



Duw, Ti yw ffynhonnell bywyd. Tyrd â'th allu sy’n adnewyddu. Pura fi, iachâ fi, fel y gallaf ddod yn berson y gwnaethost fi i fod. Amen.








Y Chwaer Lydia Schranz, Deacones a Chaplan, Y Swistir.


Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd