Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Saboth - Byw Yn ôl Rhythm DuwSampl

Sabbath - Living According to God's Rhythm

DYDD 1 O 8

Y SABOTH A HUNANIAETH


MYFYRDOD


Roedd dau ffrind wedi bod yn chwilio am waith ers amser maith, ac roedd hyn yn pwyso'n drwm arnyn nhw, gan fod gan y ddau deulu i ofalu amdanyn nhw. Roedden nhw’n mynychu cwrs o'r enw "Cristnogaeth a Gwaith" roeddwn i’n ei ddysgu yn fy eglwys. Yn ystod y cwrs, buon nhw’n agored iawn am eu diweithdra, a chawson nhw eu poeni’n arbennig gan gwestiynau am eu hunaniaeth. Ydy fy ngwerth yn dibynnu ar fy mherthnasedd yn y byd gwaith? I ba raddau ydw i'n uniaethu fy hun â'r gwaith dw i'n ei wneud? Pa effaith y mae diweithdra yn ei chael arnaf i?



Wrth dalu sylw i’w tystiolaethau fe sylwon ni pa mor bwysig yw ein swyddi i'n hunaniaeth. Mae Duw wedi ordeinio diwrnod heb waith ar gyfer pob wythnos - y Saboth - i’n hatgoffa nad ein swyddi ni sy’n pennu ein hunaniaeth.



Cafodd y Saboth ei ddwyn oddi ar yr Iddewon. Fel caethweision, roedd yn rhaid iddyn nhw weithio’n galed drwy’r amser yn gwasanaethu’r Pharo. Roedden nhw’n gaeth mewn system oedd yn eu hecsbloetio ac yn rheoli creadigaeth Duw yn llwyr. Fodd bynnag, ni fyddai Duw yn derbyn y 'status-quo'. Rhyddhaodd ei bobl rhag caethwasiaeth. Yn yr anialwch y tu allan i'r Aifft, roedd yr Iddewon yn gallu dathlu'r Saboth unwaith eto. Wrth addoli Duw, gawson nhw eu hatgoffa o'u hunaniaeth ddyfnaf a mwyaf gwir: Nhw oedd y bobl roedd Duw wedi’u dewis ac yn eu caru.



Dyna pam mae'r Saboth yn hollbwysig i ni i gyd. Pan fyddwn ni'n addoli Duw ac yn cael cymdeithas â'n gilydd, dŷn ni'n profi ein bod ni bob amser hefyd yn derbyn trwy roi. Dŷn ni'n fwy na'r hyn dŷn ni'n ei wneud a'r hyn dŷn ni'n ei gyflawni. Yn y pen draw dŷn ni’n canfod ein hunaniaeth a’n hurddas wrth gydnabod ein bod ni - yn anhaeddiannol - yn blant annwyl i Dduw.



Mae gwaith yn ein helpu i adeiladu ein cymeriad, ond nid yw ein gwerth fel person yn cael ei bennu gan yr hyn a wnawn. Ar ein diwrnod o orffwys, dŷn ni’n ymbellhau oddi wrth ein gwaith a phrofi agosrwydd Duw o’r newydd. Gyda chymorth y Saboth gafodd ei ordeinio gan Dduw, dŷn ni’n derbyn heddwch. Mae ein gwerth fel bodau dynol yn seiliedig ar ein perthynas â Duw.



Mae'r ddau ffrind a fynychodd y cwrs wedi myfyrio'n helaeth ar eu hunaniaeth. Yn ystod cyfnod anodd maen nhw wedi dysgu bod Duw yn eu caru, waeth beth yw eu galwedigaeth neu eu cyflawniadau. O ganlyniad, maen nhw wedi dod o hyd i bersbectif cynhaliol a chalonogol ar gyfer eu bywydau.



CWESTIYNAU I FYFYRIO ARNYN NHW



  • Sut mae cymdeithas yn mesur fy ngwerth? Sut mae Duw?


  • Ydw i’n diffinio fy hunaniaeth trwy gyflawniadau cyson, neu a allaf i “fod” yn hytrach na “gwneud” ar ddydd Sul?

  • Sut gallaf brofi fy ngwerth yn Nuw mewn bywyd bob dydd a’i ddangos i eraill?




TESTUNAU GWEDDI





  • Dŷn ni’n diolch i Dduw am ein hamser o orffwys bob wythnos, pan dŷn ni’n profi bod yn blant annwyl i Dduw heb orfod cyflawni dim o gwbl.


  • Dŷn ni’n diolch i Dduw am ein gwaith a sut mae’n datblygu ein cymeriad a’n cynnal ni.


  • Dŷn ni’n gweddïo dros y rhai sy’n gaethweision i’r gymdeithas dŷn ni’n byw ynddi, sydd â chymaint o bwyslais ar berfformiad. Arglwydd, rhyddha nhw fel gwnest di ryddhau dy bobl o’r Aifft.


  • Dŷn ni’n edifarhau oherwydd ein bod yn dibynnu gormod ar ein cyflawniadau a pherfformiad, yn lle seilio ein hunaniaeth yn Nuw.



AWGRYM GWEDDI



Arglwydd dŷn ni’n hollol ddiymadferth wrth drio dod o hyd i loches ynot ti. O fod wedi ein dylanwadu gan ein bywydau dyddiol, dŷn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar ein cyflawniadau, er ein bod yn dyheu am gymeradwyaeth a chariad.



Diolch am ein caru ni yn gyntaf. Diolch i ti am roi dy gariad i ni yn ddiamod. Diolch i ti am ein meithrin ni, a’n heneidiau, ac am ddarparu popeth sydd ei angen arnom. Nid oes arnom angen unrhyw “fitaminau atodol."



Arglwydd, helpa ni i ddeall ein newyn fel dyhead amdanat ti. Cynorthwya ni i gael ein maethu gan dy gariad. Dangos i ni sut i fod yn dy bresenoldeb bob dydd ac arwain ni bob amser. Amen.








Gisela Kessler-Berther, Meistr Astudiaeth Uwch mewn Diwinyddiaeth, swyddogaethau arwain gwahanol yn y sector iechyd ac addysg, Y Swistir.



Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Sabbath - Living According to God's Rhythm

Mae Wythnos Weddi'r Cynghrair Efengylaidd (WOP) yn fenter a arsylwyd ledled y byd ond yn bennaf ledled Ewrop gyda deunydd yn cael ei ddarparu gan y Cynghrair Efengylaidd Ewropeaidd. Mae WOP 2022 yn digwydd o dan y thema ...

More

Hoffem ddiolch i Cynghrair Efengylaidd Ewrop am ddarparu’r cynllun hwn. I gael rhagor o wybodaeth, dos i: http://www.europeanea.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd