Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 1 O 15

GWEDDI:



Dduw, agor fy llygaid heddiw i weld fy hun fel rwyt ti'n fy ngweld.







DARLLENIAD:



Ein hunaniaeth yw'r stori dŷn ni'n ei hadrodd i ni ein hunain. Mae’r stori honno’n cael ei llywio drwy gydol ein bywydau gan ein perthnasoedd a’n profiadau arwyddocaol. Mae'n lens dŷn ni’n gweld y byd drwyddi. Yn aml, dŷn ni ddim yn ymwybodol ohoni, ac eto mae'n llywio llawer o'n penderfyniadau ac yn llywio ein hymateb i bobl ac amgylchiadau.








Er enghraifft, os wnes di ar ryw adeg yn dy orffennol ddarbwyllo dy hun nad oes neb yn dy garu, falle fod tuedd ynot ti i weld gwrthodiad ym mhob dim o’th gwmpas. Neu, os yw dy stori'n dweud mai dim ond pan fyddi di'n llwyddiannus y byddi di'n werthfawr, yna, falle y byddi di'n ystyried bywyd fel cystadleuaeth, yn troi rhwng uchafbwyntiau ac isafbwyntiau emosiynol yn seiliedig ar dy berfformiad diweddaraf.







Mae’r straeon, neu’r adroddiadau hyn, yn hynod bwerus a gallan nhw siapio llawer o’n bywydau. Mae Duw yn gwybod hyn amdanom ni. Un o'r prif ffyrdd y mae'n dod â newid yw, trwy ddisodli ein hen stori ag un newydd.






Yn ei lythyr at yr Effesiaid, mae Paul yn dechrau trwy ddisgrifio naratif newydd sy’n diffinio’r hyn sy’n wir am ddilynwyr Iesu. Mae'n amlinellu ffordd newydd o weld eu hunain - y ffordd y mae Duw yn eu gweld. Mae Paul yn eu tywys trwy'r hyn mae Duw wedi'i wneud iddyn nhw. Mae'n eu helpu i ddeall beth sy'n wir amdanyn nhw nawr oherwydd yr hyn mae Duw wedi'i wneud. Ac mae'r holl bethau hyn yn wir amdanom ninnau hefyd. Maen nhw’n wir er gwaetha’r ffaith nad ydyn nhw’n teimlo'n wir. Maen nhw’n wir hyd yn oed os nad wyt wedi gwneud dim i'w haeddu nhw. Maen nhw’n wir, yn syml, oherwydd bod Duw wedi dweud hynny.






MYFYRDOD:



Cymra beth amser i wneud rhestr o'r holl bethau mae'r darn hwn yn ei ddweud sy'n wir amdanat ti fel un o ddilynwyr Iesu. Paid â rhuthro drwyddyn nhw, ond dos yn ddigon araf i ystyried yr hyn a gafodd ei sgwennu. Beth yw un neu ddau o wirioneddau sy'n apelio i ti? Pa wirioneddau wyt ti am ystyried yn ddyfnach? Sgwenna’r rhain ar nodyn gludiog neu gerdyn mynegai a'i roi yn rhywle y gelli di ei weld i gael dy atgoffa bob dydd.






Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd