Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 8 O 15

GWEDDI:



Dduw, dw i’n ddiolchgar dy fod yn caniatáu imi dy alw yn Dad Nefol. Diolch am fy ngharu ac eisiau imi fod yn agos atat ti.







DARLLENIAD:



Pan mae disgyblion Iesu yn gofyn iddo eu dysgu sut i weddïo, mae’n rhoi’r esiampl hon. Mewn sawl ffordd, gallwn ninnau ddefnyddio’r weddi hon fel map ffordd ar gyfer sut allwn ni fynd ati yn ein bywyd gweddi ein hunain. Mae un o’r gwersi mwyaf dwys mae Iesu yn ei ddysgu drwy’r weddi hon i’w cael yn y ddau air cyntaf, “Ein Tad.”







Trwy ddefnyddio’r gair “Tad,” mae Iesu yn diffinio’r math o berthynas y gallwn ei chael gyda Duw. Roedd hwn yn newid enfawr i'w ddilynwyr Iddewig yn y ganrif gyntaf. Doedd hi ddim yn gyffredin nesáu at y Duw hollalluog ag iaith mor gyfarwydd ac agos. Ond efallai mai dyna oedd pwynt Iesu.







Os dŷn ni’n meddwl am Dduw fel ein harweinydd nefol neu esiampl nefol, neu hyd yn oed ein ffrind nefol, yna bydd ein bywyd gweddi yn cael ei siapio mewn ffordd hollol wahanol. Mae'r teitlau hyn yn dod â disgwyliadau a chyfyngiadau i'r berthynas.







Dychmyga weithiwr yn cerdded i mewn i swyddfa ei fos ac yn gwneud cais. Byddai naws arbennig i'r rhyngweithio, edmygedd a pharch. Nawr, dychmyga ferch bum mlwydd oed y bos yn dod i mewn i'r ystafell i ofyn am felysion. Byddai'n mynd ato mewn ffordd hollol wahanol, efallai hyd yn oed neidio ar ei lin a gwneud ei chais yn hyderus. Pam fyddai un person yn ymddwyn yn wahanol i’r llall? Mae'n berthynas wahanol. Y math o berthynas sydd gen ti sy'n pennu lefel y mynediad a'r agosatrwydd.







Dyna pam mae geiriau Iesu mor ddwys. Pan mae’n dweud wrthym am weddïo “Ein Tad,” mae’n gwneud datganiad radical am y math o berthynas y gallwn ei chael gyda Duw. Trwy Iesu, dŷn ni wedi cael ein mabwysiadu i deulu Duw, a gallwn nesáu yn hyderus wrth i ni gael ein gwahodd i berthynas sy’n cael ei ddiffinio gan fynediad ac agosatrwydd.







(Chafodd pawb mo’r fraint o dyfu i fyny gyda thad cariadus a oedd yn blaenoriaethu eu teimladau a’u hanghenion. I rai, gall fod yn niweidiol cysylltu eu syniad o “dad” â’u perthynas â Duw. Falle y bydd taith hir iachâd o'th flaen cyn y gelli di ddefnyddio'r enw hwnnw am Dduw gyda sicrwydd o'i gariad, ond paid â gadael i'r poenau hynny dynnu dy sylw oddi wrth y prif bwynt y mae Iesu'n ei wneud trwy ddefnyddio'r gair “Tad” – dy fod yn gallu agosáu at Dduw yn hyderus o fewn perthynas mynediad ac agosatrwydd. Dydy Duw ddim wedi ei gyfyngu i derfynau a chlwyfau ein tadau daearol. Y mae yn eich caru fel Tad perffaith.)







MYFYRDOD:



Mae perthynas gyda Duw yn un sy’n cael ei ddiffinio gan fynediad, agosatrwydd a hyder. Gad i hynny suddo i mewn. Mae hi mor rhyfeddol yw ei bod hi'n bosibl i gael y math hwnnw o berthynas â Duw trwy Iesu!



Treulia ychydig funudau a dos drwy'r cwestiynau canlynol. Wrth i ti eu sgwennu i lawr, gofynna i'r Ysbryd Glân ddangos i ti sut mae Duw yn dymuno cael perthynas agos â thi, ei blentyn.



Sut olwg sydd ar dy berthynas â Duw ar hyn o bryd? Oes unrhyw ran o’th galon neu fywyd wyt ti’n gyndyn i drystio ynddo? Sut beth fyddai mynd at y Tad yn gwbl hyderus ei fod yn dy garu di ac eisiau i ti fod yn agos?






Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd