Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 5 O 15

GWEDDI:



O Dduw, pan fydda i’n cael fy nhemtio i atal gras rhag eraill, atgoffa fi o'r gras yr wyt o’th ewyllys yn estyn i mi.







DARLLENIAD:



Pan Dŷn ni’n darllen y ddameg yn Luc 15, mae’n demtasiwn i drin y brawd hŷn fel enghraifft eithafol o haerllugrwydd a hunan gyfiawnder - rhywun fedrwn ni ddim uniaethu ag e. Ond os gwnawn ni hynny, wnawn ni golli’r gwirionedd pwysig: Mae gennym ni i gyd “frawd hŷn” ynom ni.







Os wnei di edrych yn agosach ar y brawd hŷn, falle y gwnei di weld nad ydy e’n ymateb mor eithafol wedi'r cyfan. Mae'r dicter y mae'n ei deimlo yn ymwneud â thegwch yn y pen draw. Mae'n credu nad yw'n deg i'w dad drin ei frawd yr un ffordd ag y mae'n ei drin e. I ddweud y gwir, mae ganddo bwynt. Does bosib ei fod yn haeddu mwy na'i frawd? Onid yw ei ufudd-dod a'i gysondeb wedi ennill mwy iddo?





Dŷn ni’n aml yn edrych ar gynnig Duw o ras anhaeddiannol fel rhywbeth cwbl gadarnhaol. Ond weithiau, pan dŷn ni’n ei weld yn cael ei chwarae allan yn ein bywydau a’n perthnasoedd go iawn, gall gras fod yn faen tramgwydd. Os byddwn yn caniatáu i gymhariaeth sleifio i mewn, mae gras yn cyflwyno problem real iawn i ni. Dydy e ddim yn deg.







Sut mae’n deg i Dduw ddiystyru pechod rhywun, yn enwedig os mai ni yw’r rhai sy’n cael ein brifo ganddo? Mae Paul yn mynd i’r afael â’r tensiwn hwn yn uniongyrchol yn ei lythyr at y Cristnogion yn Rhufain.







Cyflwynodd Duw Grist yn aberth cymod, trwy dywalltiad ei waed - i'w dderbyn trwy ffydd. Gwnaeth hyn i ddangos ei gyfiawnder, oherwydd wrth ymatal roedd wedi gadael y pechodau a gyflawnwyd ymlaen llaw heb eu cosbi - gwnaeth hyn i ddangos ei gyfiawnder nawr, er mwyn bod yn gyfiawn fel yr un sy'n cyfiawnhau'r rhai sydd â ffydd yn Iesu.



-Rhufeiniaid 3:25-26







Sut gall Duw fod yn “gyfiawn” ac ar yr un pryd fod “yr un sy'n cyfiawnhau” y rhai sydd wedi pechu? Ydy e'n sgubo pechod o dan y carped fel ei fod erioed wedi digwydd? Ydy hynny'n golygu nad yw e’n cymryd pechod o ddifrif?







Mae’n ymddangos fel gwrthddywediad, a dyna yw, oni bai fod ychwaneg i'r hanes - oni bai fod rhyw fodd y gellir talu pris y pechod heb orfod ei dynnu oddi wrth yr hwn a bechodd. Mae Paul yn sgwennu mai Iesu yw ein “bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn” - yr aberth a dalodd y pris am ein hawl i sefyll gyda Duw.







Iesu yw'r ateb i'r broblem y mae gras yn ei chyflwyno. Trwy Iesu, gall Duw fod yn “yr un sy'n cyfiawnhau” tra hefyd yn aros yn “gyfiawn” fel yr un sy'n gyson wrth gyflawni canlyniadau pechod.






Felly, pan fyddi di'n teimlo dy fod yn cael dy demtio i atal gras neu faddeuant oddi wrth rywun am nad ydyn nhw'n ei haeddu, cofia nad yw Iesu'n dod atom ni gan ddweud, “Dw i'n dy garu di oherwydd dy fod ti'n berffaith.” Yn lle hynny, mae'n dod atom yn ein diffygion ac yn dweud, "Dw i'n dy garu yn union fel yr wyt ti, a byddaf yn talu'r pris i'th wneud di'n berffaith." Wnaeth Duw ddim bodloni ar fod yn deg yn ei berthynas â thi; talodd y pris o’i ewyllys ei hun. O ran ein perthynas â Duw, does dim angen tegwch arnon ni - mae angen gras arnon ni. Fel y rhai sydd wedi derbyn rhywbeth mor werthfawr, dylen ni fod y cyntaf mewn rhes i estyn gras i eraill.











MYFYRDOD:



Cymra sy amser a gwna nodiadau wrth weithio drwy’r cwestiynau canlynol:



• Ymhle wyt ti wedi bod yn atal gras. Oes amgylchiad neu berson a ddaw i'r meddwl? Paham mae hi’n teimlo mor anodd estyn gras yn y sefyllfa hon?


• Oes unrhyw un yn dy fywyd rwyt yn credu sydd y tu allan i gyrraedd gras? Sut olwg fyddai ar ddod â'r person a'r sefyllfa gerbron y Tad a gofyn am i'w galon o ras gael ei ffurfio ynot ti?







Ar ôl i ti gael cyfle i ateb y cwestiynau uchod, tyrd o hyd i le tawel i eistedd a bod yn llonydd am ychydig eiliadau gydag Iesu. Wrth i ti lonyddu, dalia dy ddwylo allan a’u cau’n ddyrnau, gan wynebu i lawr. Dychmyga’r Tad yn cofleidio'r person sydd wedi dy frifo. Os wyt ti’n teimlo fod tensiwn yn codi, gad i'th ddyrnau gau’n galetach. Arhosa fel yna am ychydig os oes angen. Pan fyddi di'n barod, cymra anadl ddofn a gofynna i Dduw roi ei galon i ti ar gyfer y person hwn. Tro dy ddyrnau ar i fyny. Ymlacia ac anadlu’n ddwfn wrth iti agor dy ddwylo a'u rhyddhau i'r Tad.







Os wyt ti ddim yn barod i ollwng gafael ar y tensiwn, caniatâ i'r ymarfer hwn fod yn weddi ddiffuant y bydd Duw yn dy helpu i symud i'r cyfeiriad hwnnw.














Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd