Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 7 O 15

GWEDDI:



Duw, dw i eisiau bod yn debycach i ti. Helpa fi i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu, a thyfu gyda thi.






Ydych chi erioed wedi gweld y ffilm The Karate Kid? Dyma stori plentyn ysgol uwchradd o'r enw Daniel sy'n cael trafferth gyda rhai bwlis clasurol tebyg i'r 1980au. Mae Daniel yn darganfod yn fuan fod porthor yr adeilad ble mae ei fflat, Mr Miyagi, yn arbenigwr karate, ac mae Daniel yn gweld yr ateb perffaith i'w broblem. Mae Mr Miyagi yn cytuno i hyfforddi Daniel ac yn ei roi i weithio'n glanhau ceir, yn paentio ffensys, ac yn sandio lloriau. Mae Daniel yn gweithio am ddyddiau yn gwneud y tasgau blinedig ac ailadroddus hyn. O'r diwedd mae'n mynd yn rhwystredig ac yn gwylltio gyda’i athro karate newydd oherwydd yr holl waith hwn heb ddysgu dim am karate. Ond mae Mr Miyagi yn datgelu i Daniel fod yr un gwaith mae wedi’i wneud drosodd a throsodd ers dyddiau wedi bod yn wersi karate iddo! Mae Mr Miyagi yn ceisio’i daro, ac mae Daniel yn darganfod ei fod wedi datblygu'r cryfder a'r cof cyhyr ar gyfer pob math o symudiadau blocio a oedd ymhell y tu hwnt i'w allu ychydig ddyddiau ynghynt.







Mae’r Karate Kid yn enghraifft wych o sut mae arferion ysbrydol yn gweithio yn ein bywydau. Dŷn ni'n darllen am gariad, llawenydd, heddwch, amynedd, a llawer o bethau rhyfeddol eraill dŷn ni eu heisiau yn ein bywydau. Ond nid yw cymryd gafael ar y pethau hyn yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni trwy ein hymdrech ein hunain. Allwn ni ddim gobeithio’r gorau y cawn ni lawenydd, o leiaf am gyfnod o amser. Felly sut dŷn ni, fel y sgwennodd Paul at Timotheus yn y darn uchod, yn “ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw?” Dŷn ni’n anelu ein hymdrech tuag at arferion ysbrydol.







Mae arferion ysbrydol Iesu yn cyfateb i lanhau ceir a sandio lloriau. Falle nad yw’n ymddangos dy fod yn cyflawni dim wrth dreulio amser bob dydd i dawelu dy hun gerbron Duw i ddarllen y Beibl a gweddïo. Ond un diwrnod, pan fyddi di'n cael dy daro gan amgylchiadau annisgwyl, byddi di'n synnu wrth ddarganfod nad wyt ti'n ymateb yn y ffordd roeddet ti'n arfer gwneud. Yn lle hynny, byddi di'n dal dy hun yn trin yr amgylchiad gydag amynedd` - ac yn dal i deimlo heddwch yn ei ganol.







Yn union fel hyfforddiant ac ymarfer corfforol, mae arferion ysbrydol yn ein galluogi, dros amser, i wneud pethau a oedd unwaith ymhell y tu hwnt i'n gallu. A gyda phob parch i Mr Miyagi, mae arferion ysbrydol yn gwneud llawer mwy na miniogi a chryfhau ein galluoedd naturiol. Yn hytrach, maen nhw'n ein helpu ni i fanteisio ar rym yr Ysbryd Glân, sy'n gweithio ynom ni i feithrin mwy a mwy o nodweddion Iesu.







Mae’r awdur Dallas Willard yn disgrifio arferion ysbrydol, y mae’n cyfeirio atyn nhw fel “disgyblion,” fel hyn:
“Mae’r disgyblaethau yn weithgareddau meddwl a chorff sy’n cael eu cwblhau gyda bwriad, i ddod â’n personoliaeth a’n cyfanrwydd i gydweithrediad effeithiol â’r drefn ddwyfol. Maen nhw’n ein galluogi ni fwyfwy i fyw mewn pŵer sydd, a dweud y gwir, y tu hwnt i ni, yn deillio o’r deyrnas ysbrydol ei hun.”






Felly, cymer ofal pan wyt ti’n meddwl peidio gweddïo a darllen y gair bob dydd, “Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau” (Ioan 15:5).







MYFYRDOD:



Dyma ychydig o arferion ysbrydol dethol sydd wedi bod o gymorth i ddilynwyr Iesu dros y canrifoedd. Maen nhw wedi'u rhannu'n ddau gategori, arferion ymgysylltu ac arferion atal. Edrycha drwy'r rhestr ac ystyria un arferiad newydd y gallet ti ddechrau fel ffordd o gysylltu â Duw.







Arferion Ymgysylltu



Mae'r arferion hyn yn ein helpu ni drwy ychwanegu rhythmau newydd o gysylltiad â Duw yn ein trefn arferol er mwyn agosáu ato.








  • Darllen y Beibl: Treulio amser yn darllen ac yn myfyrio ar yr Ysgrythur i ganiatáu i Dduw siarad â ni, ein harwain a'n dysgu. Mae hyn yn cynnwys gwahanol ddulliau o ddarllen, astudio, ystyried yn ddwys, a hyd yn oed fyfyrio ar eiriau’r Ysgrythur.

  • Addoliad: Dathlu a mynegi diolch am bwy yw Duw a’r hyn y mae wedi’i wneud. Gellir gwneud hyn yn breifat neu'n gyda chynulleidfa mewn gwasanaethau addoli. Mae addoliad yn aml yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, fynegiant cerddorol.

  • Gweddi: Siarad â Duw am yr hyn dŷn ni'n ei brofi. Gall gweddi gynnwys addoliad, fel y disgrifir uchod, eiriolaeth (gweddïo dros anghenion eraill), cyfaddefiad, a llawer o elfennau eraill. Nid oes un ffordd i weddïo, yn union fel nad oes un ffordd o gyfathrebu â phobl y mae gennym berthynas â nhw. Yn y pen draw, mae gweddi yn ymwneud â chreu cysylltiad deallusol, emosiynol ac ysbrydol â'n Tad nefol fel y gallwn wybod yn well a thrystio yn ei ewyllys.

  • Haelioni: Mae ein cariad at Dduw i fod i orlifo mewn cariad at eraill. Un o'r ffyrdd dŷn ni'n dangos y cariad hwnnw yw trwy fod yn hael gyda'n hamser, ein hegni a'n hadnoddau.






Arferion Ataliaeth



Mae’r arferion hyn yn ffyrdd o wadu i’n hunain rywbeth dŷn ni eisiau neu ei angen i wneud lle i ganolbwyntio arno a chysylltu â Duw. Yn y bôn, maen nhw'n ein helpu ni i gysylltu â Duw trwy gael gwared â phethau o'n trefn arferol.








  • Unigedd: Mynd o’r neilltu i fod ar ben dy hun gyda Duw a chanolbwyntio arno a'r hyn y mae am ei ddweud wrthyt ti.

  • Ymprydio: Mynd am gyfnod penodol heb fwyd, na rhyw awydd nac angen arall, er mwyn canolbwyntio'n well ar weddi a chysylltiad â Duw.

  • Saboth/Gorffwys: Neilltuo amser yn rheolaidd pan na fyddwn yn gweithio neu'n canolbwyntio ar gynhyrchiant er mwyn i ni allu addoli, gorffwys, ac atgyfnerthu. Sefydlodd Duw y Saboth i Israel neilltuo un diwrnod llawn bob wythnos iddo, ond gellir ymarfer hanfod gorffwys Saboth am gyfnodau byrrach hefyd.





Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd