Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 4 O 15

GWEDDI:



Dduw, dangos i mi'r pethau rwyf yn rhedeg atyn nhw er mwyn cael diogelwch ac arwyddocâd yn y bywyd hwn. Helpa fi i ollwng gafael arnyn nhw ac ymddiried ynot ti.







DARLLENIAD:



Dychmyga mai ti yw'r unig un sydd wedi goroesi llongddrylliad. Rwyt ti'n arnofio am ddyddiau, gan ddal gafael i ddarn o bren ddaeth o'r llongddrylliad. Yna, pan mae hi’n edrych ar ben arnat ti, mae cwch yn ymddangos ar y gorwel. Cyn bo hir, mae'r cwch yn tynnu ochr yn ochr â thi ac mae rhywun yn taflu rhaff atat. Maen nhw'n dweud wrthot ti i am ollwng y pren a gafael yn y rhaff. Mae hwn yn ymddangos fel penderfyniad syml, iawn? Rwyt ti mewn sefyllfa enbyd na elli di ddianc rhagddo ar dy ben dy hun, ac mae rhywun wedi dod draw sy'n barod ac yn gallu dy achub. Y cyfan sydd angen i ti ei wneud yw gollwng y pren a gafael yn y rhaff. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw trystio.







Ond beth os cyn i ti gydio yn y rhaff, rwyt ti'n dechrau cwestiynu dy benderfyniad, gan feddwl sut mae'r darn hwn o bren wedi dy gael di drwy lawer yn ystod y dyddiau diwethaf ar y môr. Mae wedi bod yno pan oedd ei angen arnat ti, ac rwyt ti wedi dod i ddibynnu arno i oroesi. Mae gadael y peth i afael mewn rhywbeth arall yn ormod i'w ofyn. Felly rwyt ti'n gweiddi'n ôl at y cwch, “Na. Dw i'n mynd i afael yn y pren!”







Byddai hynny'n benderfyniad gwallgof! Ond p'un a ydyn ni'n sylweddoli hynny, mae'n un dŷn ni'n tueddu i'w wneud trwy'r amser yn ein bywydau ysbrydol. Pan mae Iesu’n ein gwahodd i’w ddilyn a byw ffordd newydd o fyw fel rhan o’i deyrnas, mae’n ein gwahodd i drosglwyddo ein tryst iddo. Mae’n ein gwahodd i ollwng gafael ar y pethau dŷn ni wedi ymddiried ynddyn nhw o’r blaen er ein diogelwch a’n harwyddocâd - ac i gymryd gafael ynddo e fel ein ffynhonnell newydd. Gall y “rhyddhad” hwn o'n ffordd o fyw, ar adegau, deimlo'n debyg iawn i farw, fel ein bod ni'n colli ein bywyd fel dŷn ni'n ei adnabod. Gall fod yn frawychus a hyd yn oed yn boenus i gymryd y cam hwnnw.







Ac, yn wahanol i stori goroeswr y llongddrylliad, ni fydd ein penderfyniad i ollwng gafael a thrystio yn benderfyniad un-amser. Hyd yn oed ar ôl i ni benderfynu trystio yn Iesu a’i ddilyn, byddwn ar adegau’n canfod ein hunain yn glynu wrth rannau o’n hen ffordd o fyw. Byddwn yn dal ein hunain yn dychwelyd at y ffynonellau diogelwch ac arwyddocâd cyfarwydd hynny. A phob tro bydd angen i ni wneud y penderfyniad - eto - i ollwng gafael a gafael yn y bywyd y mae Iesu’n ei gynnig yn lle hynny.







Pan fyddi di'n wynebu eiliad arall fel hon, atgoffa dy hun o addewid Iesu yn y darn uchod. Trwy golli, gollwng gafael, o’n bywydau y byddwn yn dod o hyd iddyn nhw, yn yr ystyr dyfnaf a llawnaf.







MYFYRDOD:



Mae Iesu’n ein gwahodd i drosglwyddo trystio o’r hen bethau cyfarwydd dŷn ni’n glynu wrthyn nhw er mwyn gobaith a sicrwydd i rywbeth llawer gwell: Iesu ei hun. Pa bethau sydd anoddaf i ti ollwng gafael arnyn nhw ac thrystio ynddo e? Treulia ychydig o amser yn cofnodi a gofynna i Dduw ddatgelu lleoedd hynny yn dy galon a'th fywyd lle rwyt ti’n dal i gael trafferth trystio ynddo e.






Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd