Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 2 O 15

GWEDDI:



Dduw, diolch i ti am roi hunaniaeth newydd i mi fel dy fab neu ferch. Dysga i mi beth mae hynny'n ei olygu heddiw.






DARLLENIAD:



Mae llawer o bobl yn cychwyn ar eu taith ysbrydol oherwydd eu bod yn profi canlyniadau rhwystredig, ac yn aml poenus, eu penderfyniadau a'u hymddygiad. Wedi'u gyrru gan awydd am newid, maen nhw'n dod i'r eglwys neu'n penderfynu ymuno â grŵp. Does dim byd o'i le ar awydd am newid. Yn wir, dyna'n union y mae Duw yn ei ddymuno i ti.







Ond mae ei fan cychwyn e ar gyfer y broses o newid, yn aml, yn wahanol i'n un ni.







Dŷn ni fel arfer eisiau cymryd y ffordd gyflymaf i newid, felly dŷn ni yn y pen draw yn canolbwyntio ar yr ymddygiadau dŷn ni eisiau iddyn nhw fod yn wahanol. Dŷn ni'n ceisio gorfodi ein hunain i newid trwy rym ewyllys pur. Gall hyn ein harwain i gylch rhwystredig o fethiant a chywilydd. Pam? Oherwydd bod ein problem yn llawer dyfnach na'n hymddygiad.






Dychmyga dy fod yn gweld domino enfawr ar fin cwympo, a ti’n gallu gweld y bydd y canlyniadau'n ddrwg. Rwyt ti'n rhuthro drosodd ac yn rhoi dy holl gryfder ac egni i atal y domino hwnnw rhag cwympo. Rwyt ti'n llwyddo i'w ddal yn ôl i fyny dim ond i droi o gwmpas a'i weld yn disgyn drosodd eto. Rwyt ti'n ailadrodd y cylch hwn drosodd a throsodd, weithiau'n methu ac weithiau'n llwyddo. Ond nid yw hyd yn oed y buddugoliaethau yn para'n hir. Yna mae rhywun yn gofyn i ti gamu i ffwrdd o'r gwaith blinedig hwnnw ac edrych ar y sefyllfa o ble maen nhw’n sefyll. Unwaith y byddi di'n camu'n ôl, rwyt ti'n gallu gweld y domino o ongl wahanol ac rwyt ti'n sylweddoli mai hwn oedd yr olaf mewn llinell hir o ddominos, pob un yn disgyn ar y nesaf, gan arwain yr holl ffordd at yr un olaf. Mae'r persbectif newydd hwn yn dy helpu i weld, os wyt ti wir eisiau atal y domino olaf hwnnw, mae angen i ti fynd yn ôl yn llawer pellach.







Mae Duw yn gwybod bod ein gweithgaredd yn deillio o'n hunaniaeth. Felly, mae ei broses o newid yn dechrau trwy roi hunaniaeth newydd i ni fel mab neu ferch i Dduw, sy’n cael ei garu a’i werthfawrogi yn ei lygaid. Rhaid i wir newid ddechrau ar lefel sylfaenol y galon hon a gweithio ei ffordd i'n hymddygiad.







Gall fod yn ddigalon sylweddoli bod ein problem wedi’i wreiddio’n ddyfnach nag yr oedden ni’n ei feddwl, ond mae’n galonogol gwybod bod Duw yn gwneud y gwaith sylfaenol i ni. Mae wedi ymrwymo i'r newid y mae wedi ei gychwyn.







MYFYRDOD:



Cymra ychydig o amser i fod yn llonydd gerbron Duw. Dim gwrthdyniadau. Dim dominos. Gall gymryd ychydig o amser i gyrraedd y pwynt lle nad wyt yn rhuthro o gwmpas, ac i ti fod yn llonydd yn fewnol. Bydd yn amyneddgar; dalia ati. Wrth i ti setlo lawr yn y llonyddwch, gofynna i Dduw am ymwybyddiaeth ddyfnach o'i bresenoldeb. Gofynna iddo ddatgelu pa fannau yn dy galon y mae am weithio ynddyn nhw a'u gwneud yn newydd.






Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid...

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd