Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 9 O 10

Calon Dduw nawr, ac erioed, yw bod yr eglwys i fyw fel teulu. Yr eglwys yw’r man ble dŷn ni’n brwydro, synnu, addoli, ac amau gyda’n gilydd. Yr eglwys yw’r fan ble dŷn ni’n dod gyda methiannau ein gorffennol ac yn darganfod iachâd, derbyniad, a gras. Yr eglwys yw’r fan ble mae pobl sydd wedi’u torri yn darganfod nad ydyn nhw ar ben eu hunain. Dyna oedd gweledigaeth Duw pan wnaeth e arllwys ei ysbryd y tro cyntaf yn Actau, pennod 2. A dy na yw gweledigaeth Duw ar dy gyfer di.



Mae’n wir nad yw lot o eglwysi wedi gwneud job dda o gyflawni ei weledigaeth ac mae yna gymaint sydd angen ei wneud i newid, ond ti all fod y newid sydd ei angen.



Ti yw’r eglwys.



Nid adeilad yw eglwys, ond cymuned o bobl sydd gyda’i gilydd eisiau dilyn ffordd Iesu. Mae hyn yn golygu pwyso ar bopeth sy’n dda, yn hardd, ac yn flêr am ein ffydd - a’n gilydd. Mae’n golygu stryglo law yn llaw drwy ein hamheuon.



Yn Matthew pennod 26, oriau cyn ei farwolaeth, eisteddodd Iesu gyda’i ddisgyblion wrth y bwrdd. Fe wnaethon nhw ganu a gweddïo. Cymerodd dorth a’i thorri, cymerodd gwpan o win a’i rhannu. Dwedodd, “Dyma fy nghorff...”, “Dyma fy ngwaed..”, ”Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Eisteddai grŵp gwahanol iawn i’w gilydd wrth y bwrdd gydag Iesu, pob un gyda’i broblemau difrifol, amheuon. Diffygion, a brwydrau gyda’u ffydd.



Ond croesawodd Iesu bob un ohonyn nhw. Rhannodd ei gorff toredig gyda nhw a chynnig lle wrth y bwrdd.



Ble mae’r gymuned honno i ti? Pwy yw’r bobl o gwmpas dy ffwrdd di rwyt yn eu caniatáu nhw i mewn i’r llefydd cudd yn dy fywyd? Ym mha ffordd elli di rannu’r hyn sy’n doredig yn dy fywyd?



Does dim rhaid i ti ddioddef amheuaeth ar ben dy hun. . .



Os wyt ti’n stryglo gydag amheuaeth dylet fod yn rhan o gymuned.



Ac nid er dy fwyn di yn unig mae hyn. Mae e er mwyn eraill Hyd yn oed os nad wyt t’n dioddef oherwydd amheuon, mae’n debygol fod yna rai o'th gwmpas yn dioddef. Maen nhw dy angen di. Maen nhw’n hiraethu am dy weddïau, dy glust i wrando, a’th anogaeth. Mae’r gair anogaeth yn llythrennol olygu “i roi dewrder.” Mae’r pŵer gen ti i rannu dewrder gyda rhywun sy’n brin o ffydd. Un o'r pethau mwyaf grymus y gelli di ddweud wrth ffrind sy’n amau yw, Bydda i’n dy garu drwy hyn.” Maen nhw angen i ti wneud hyn. Maen nhw angen dy bresenoldeb. Maen nhw angen dy gryfder. Ac maen nhw angen dy glwyfau hefyd.


Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd