Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 1 O 10

Gan ein bod yn byw mewn byd o derfynau, dŷn ni’n amau.



Am nad ydy’r holl atebion gennym, mae cwestiynau’n codi’n naturiol:



Sut un yw Duw? Sut fedra i'w adnabod? Beth yw pwrpas bywyd? Pa ffordd dyllwn i fynd?



Dywedodd cyfriniwr dienw o’r bedwaredd ganrif ar ddeg unwaith ein bod yn cael ein hunain “mewn cwmwl o ddiarwybod.” Dyna pam dŷn ni’n amau. Dŷn ni ddim bob amser yn gweld yr awyr.



Fodd bynnag, yr hyn sydd raid i ni gofio ydy, fod hyn i gyd yn rhan o gynllun Duw. Dyma oedd ei fwriad. Adeiladodd derfynau i mewn i’r system. Nid damwain oedd e. Gwyddai y byddai rhaid i ni fyw gyda chymaint o bethau anhysbys. Ac eto dewisodd i'r stori ddynol edrych fel hyn. . . Pan ddewisodd Duw greu, gallai fod wedi dweud iawn wrth fil o bosibiliadau arall. Ond wnaeth e ddim. Dewisodd y byd hwn. Dewisodd ti. Dewisodd fi. Y terfynau a'r cyfan. Ac eto, fe'i galwodd yn “dda.”



Mae hyn i gyd yn golygu fod amheuon yn normal.



Maen nhw’n ganlyniad naturiol o fyw yn y byd hwn.



Rwyt yn amau, nid am dy fos yn berson ofnadwy neu am dy fod yn llai ysbrydol na neb arall. Rwyt yn amau am dy fod yn ddynol.



Mae hyn yn bwysig am fod gymaint o Gristnogion yn edrych ar amheuaeth fel pechod ffiaidd, tu hwnt i eiriau . . .



Wnaeth Duw ddim creu Adda ac Efa gyda’r holl atebion i gwestiynau anoddaf bywyd. Yn lle hynny, caniataodd le iddyn nhw archwilio, cwestiynu, a dysgu. Creodd ardd ble y gallai dirgelwch gydfodoli ochr yn ochr â ffydd. Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n amau, dydy e ddim am ein bod yn siomedigaeth i Dduw, mae e am ei fod yn ymateb naturiol i gyfyngiadau ein dealltwriaeth. . .



Dydy ffydd ddim yn ymwneud â chyfyngiant, mae'n ymwneud â phosibilrwydd. Mae ffydd yn ymwneud ag agosatrwydd croen ar groen, empathi, perthynas. Ond i gyrraedd y pwynt yna, weithiau mae’n rhaid i’n sicrwydd gael ei chwalu, i darfu fod ar ein fformiwlâu, i’n cwestiynau beidio cael eu hateb. Ac yno, yn nyfnder perthynas, y deuwn ar draws, nid rhestr o ystrydebau crefyddol, ond Person. Mae cyfeillgarwch yn cael ei eni.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd