Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 6 O 10

Galaru yw cri calon sydd wedi’i chwalu, yn glwyfus, ac ar y cyfan, heb ei iachau. Mae’n syllu ar ddioddefaint, mae hi wedi’i chleisio gan ei hochrau toredig, yn baglu, yn wylo, a chrio allan am gyfiawnder. Mae galarnad yn gwrthsefyll atebion gor-syml, wedi'u pecynnu. Mae'n gofyn am ddilysrwydd ffyrnig ac nid yw'n ofni cwestiynau na ellir eu hateb.



Cân yr enaid sy’n amau yw galarnad.



Dŷn ni’n byw mewn cyfnod pan nad yw galaru’n beth cyffredin. Dydyn ni ddim yn gwybod sut i ddelio gyda galar. Mae’n well gynnon ni wadiad. Dŷn ni’r genedl sy’n defnyddio’r mwyaf o feddyginiaeth (Uda). Mae delweddau a storiâu o ddioddef yn ein gwneud yn anghyfforddus. Dŷn ni wedi ein fferru gan adloniant a chyfryngau digidol. Dŷn ni wedi meddwi ar gyfforddusrwydd. Ac yna, pan fydd ing yn codi cwestiynau treisiol am Dduw a bywyd, bydden yn ei wadu a’i guddio. Ond dim ond am amser byr fydd hynny’n gweithio. Fel afon yn gorlifo’i glannau, gallwn wadu neu ymdrechu i gadw'r llifogydd sydd ar ddod neu ddysgu sut i fyw mewn dŵr dyfnach.



Mae’r Beibl yn orlawn o storiâu am ddynion a merched wnaeth yn union hynny. Fe welon nhw beth oedd yn digwydd o’u cwmpas, enwi’r anghyfiawnder, a gweiddi allan ar Dduw i esbonio’i hun. Gwaeddodd Dafydd, “Am faint mwy, Arglwydd?” (Salm 13 adnod 1 beibl.net). Erfyniodd Jeremeia, wedi ei lethu gan y gormes a dystiodd, i Dduw ymyrryd. Anobeithiodd Job, brwydrodd Jacob, heriodd Moses, amheuai Abraham, cwestiynodd Mair, wylodd Iesu.



Nid gwrthgyferbyniad i ffydd yw galaru, ond dyna sut olwg sydd ar ffydd pan mae’n agosáu at alar. Po fwyaf angerddol y credwn yn ddaioni Duw, mwyaf angerddol y byddwn yn gwrthdystio pan guddir ei ddaioni.



Dyna pam wnaeth Iesu wylo wrth fedd ei ffrind.



Mae’n iawn i roi llais i’n hunigrwydd. Mae’n iawn i ni weiddi ein cwynion. Mae’n iawn i fod yn flin.



Mae’n iawn peidio bod â’r atebion i gyd.



Mae Duw yn dal i redeg atom, ein cofleidio, ac wylo gyda ni. Ac yna, drwy ein dagrau, dŷn ni’n sylwi fod gan yr un sy’n wylo â dwylo ofnus. Mae ei gorff yn doredig a’i wyneb wedi’i greithio.



Dŷn ni’n sylweddoli ei fod e wedi dioddef hefyd.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd