Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 7 O 10

Yn Exodus, pan ddwedodd Duw wrth Moses am dynnu ei sandalau, roedd am ei fod yn sefyll ar dir cysegredig. Mae'n rhaid bod hynny wedi ei synnu! Roedd yn adnabod y rhan honno o'r anialwch yn dda. Roedd wedi cerdded arno am ddeugain mlynedd fel bugail. I Moses, dyna ble roedd yn gweithio. Nid oedd yn ei feddwl yn ddim byd mwy na thir cyffredin, llychlyd, budr, wedi ei sathru gan ddefaid. Ond dwedodd Duw ei fod yn gysegredig.



Beth os yw’r tir rwyt arno nawr wedi ei socian gyda sancteiddrwydd? Beth os yw holl fanylion dy fywyd yn cael eu treiddio gan silwét Duw? Beth os yw'r awyrgylch o'th gwmpas yn cael ei drwytho gan ei lais?



Mae Duw’n siarad, ond falle ddim yn union yn y ffordd rwyt ti’n disgwyl.



• Mae e’n siarad drwy bobl eraill. Hyd yn oed y rhai sy’n dy gythruddo.



• Mae e’n siarad drwy’r celfyddydau, llyfrau da, cerddoriaeth, barddoniaeth, caneuon a ffotograffau.



• Mae’n gallu siarad drwy freuddwydion. . . .



• Mae e’n siarad drwy’r greadigaeth, wrth i ni syfrdanu ar harddwch ei greadigaeth.



• Mae'n siarad trwy argyhoeddiad a'r synnwyr miniog sy’n gwybod fod rhywbeth o'i le. (Weithiau nid distawrwydd Duw yw’r broblem ond sŵn byddarol pechod. Mae pechod eisiau bod y llais uchaf yn ein bywyd. Paid â gadael iddo fod.)

\

• Mae e’n siarad drwy ein poen.



• Mae e’n siarad yn ein colled.



• Mae e’n siarad hyd yn oed yn ein hamheuaeth.



Os yw Duw’n bodoli, yna does yna ddim y fath beth â thir cyffredin. Mae’r cwbl yn gysegredig. Y foment hon, nawr, mae ble bynnag wyt ti yn gysegredig. Mae Duw’n dy wahodd i dynnu dy sandalau a thrwytho dy hun mewn addoliad.



Mae e yma.



Mae ôl bysedd Duw dros dy fywyd cyfan.


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd