Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 4 O 10

Fedra i ddim llai na thybio os ydyn ni wedi bod yn edrych ar y Beibl yn y ffordd anghywir. Falle ein bod wedi bod â chymaint o obsesiwn am sut mae llyfr hynafol, diwylliannol, gwyddonol, a moesol, yn datrys ein holl gwestiynau, fel bod amheuaeth yn anochel. Ond beth os nad sicrwydd deallusol yw’r prif amcan, ond yn hytrach ein harwain i mewn i berthynas gyda Duw sy’n blodeuo?



Falle bod angen i ni weld llai ar y Beibl drwy lygaid cyfoes (Sut mae e’n rhesymegol?) neu lygaid ôl-gyfoes (Sut mae e’n siarad â mi?). Falle bod angen i ni ei dderbyn am yr hyn ydyw: llyfr ecsentrig, rhyfedd, anodd, heriol, ysbrydoledig, croesawgar, aflonyddgar sydd, tudalen wrth dudalen, stori wrth stori, yn cyrraedd uchafbwynt ym mherson Iesu.



Os yw hynny’n wir, yna, fel unrhyw berthynas, mae’n mynd i gymryd amser.



Mae angen dyfalbarhad arnom ni i fynd tu hwnt yw wyneb hynafol brau a dadorchuddio’r gwirionedd.



Ac mae angen tunnell o ostyngeiddrwydd i ailgyfeirio ein ffordd o feddwl pan fydd hynny'n digwydd.



Y naill ffordd neu'r llall, caf dawelwch o wybod bod ei hawduron hefyd yn amau. Roedden nhw'n cael trafferth hefyd. Ond daliodd nhw ati i gerdded ffordd Emaus, oherwydd roedden nhw’n credu fod y cwbl yn werth chweil yn y diwedd. Roedd ganddyn nhw obaith y bydden nhw'n gweld eu Meseia rywbryd, rywsut.



A dyna sy’n gwneud y Beibl, nid yn unig yn rhywbeth i’w drystio, ond rhywbeth i fyw drwyddo.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd