Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod AmheuaethSampl

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

DYDD 10 O 10

Fel disgyblion cyntaf Iesu rwyt wedi dy alw i mewn i stori sy’n fwy na’th un di. Mae dy fywyd yn curo gyda phwrpas. Cefaist dy greu i’w adnabod a’i ddilyn e. Mae dy galon yn hiraethu am hyn. Ac mae pob un ohonom ni, gredinwyr ac amheuwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.



Mae e’n galw disgyblion sydd â ffydd sy’n ymddangos fyth yn gwegian. Mae fel eu bod nhw wastad wedi credu, yn hymian mawl cyn eu geni yng nghroth eu mam, a dydyn nhw heb roi’r gorau iddi ers hynny. Ond mae e’n galw’r amheuwyr hefyd....Y rheiny sydd â phoen disymud am agosatrwydd oherwydd fedran nhw ddim stumogi ffydd sydd ddim ganddyn nhw.



Mae Iesu’n derbyn y ddau. Mae’r ddau wedi’u galw. Mae’r ddau wedi’u hanfon. Mae’r ddau’n hanfodol ar gyfer y chwyldro mae e wedi’i ddechrau.



A dydy e ddim o bwys ble wyt ti ar daith o ffydd, am ei fod yn dy alw tithau hefyd.



Falle dy fod yn bell o gartref, a dwyt ti ddim yn gwybod beth neu os wyt ti’n credu ddim mwy. Neu, falle rwyt wedi mynd tu hwnt i ddadadeiladu a nawr rwyt yn cymryd golwg ar dirwedd amheuaeth, gan fynd i’r afael â chwestiynau anoddaf bywyd. Neu falle dy fod ar dy ffordd gartref. Mae dy berthynas â Duw’n wahanol i’r hyn oedd, ond rywsut mae’n well. Dyfnach. Mwy byw.



Ble bynnag wyt ti, a beth bynnag wyt ti’n feddwl am Dduw, mae posibiliadau diderfyn o’th flaen. Mae geiriau cyntaf Iesu i’w ddisgyblion wedi’u cofnodi fel, “Dewch ar fy ôl i,” ac i raddau roedd ei eiriau olaf yr un fath. Dalia ati i fynd ar ôl y gwirionedd.



Y perygl mwyaf yw nad ein bod yn colli ein ffydd ond ein bod yn setlo am ryw fersiwn cyffredin ohono. Mae pob dydd yn gyfle i ofyn, chwilio, cnocio. Mae cymaint mwy i chwilio amdano. Mae cymaint mwy i’w ddysgu. Mae cymaint mwy i gael ein trwytho ynddo. Mae yna fynyddoedd garw i'w dringo, heriau i'w goresgyn, golygfeydd i'w gweld, harddwch i'w brofi. Duw i’w adnabod.



Rwyt ti ond prin ddechrau.



A phan fydd dy galon yn gwegian, pan fydd dy liniau yn bwclo, a phan fyddo dy ffydd yn methu, cofia fod gennyt y gobaith hwn:



Mae’r gair olaf gan Iesu.






Wyt ti am fynd yn ddyfnach? Archeba lyfr Dominic When Faith Fails i ddarganfod mwy am amheuaeth a ffydd.


Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

When Faith Fails: 10 Days Of Finding God In The Shadow Of Doubt

Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Do...

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2Pn4Z0a

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd