Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 6 O 8

Cyn ei groeshoelio cafodd Iesu ei chwipio. Tynnodd y milwyr Rhufeinig yn tynnu'r dillad oddi rhan uchaf ei gorff a chlymu ei ddwylo i biler. Cafodd ei orfodi i blygu drosodd i ddangos asgwrn ei gefn. Yna, cafodd Iesu ei fflangellu â chwip 3-darn yn cynnwys tri stribed lledr wedi'u cysylltu gan ddarnau o asgwrn a metel ar gadwyn.

Roedd chwipio neu fflangellu'n digwydd cyn dienyddiad fel bod y carcharwr yn gwanhau a m arw'n gynt ar y groes. Fe wnaeth y fflangellu ffyrnig o gorff Iesu rwygo'i gorff hyd at yr asgwrn. Roedd llawer yn marw cyn cael eu croeshoelio oherwydd y fflangellu. Cafodd llawer eu parlysu ac ychydig oedd yn parhau i fod yn ymwybodol ar ôl y gosb erchyll hon.

Ar ôl y fflangellu roedd y gwatwar yn dechrau. Fe wnaeth y milwyr wawdio'n ddidrugaredd Fab Duw yr holl greadigaeth.

Roedd Iesu'n rhy wan hyd yn oed i gario'i groes ei hun oherwydd yr artaith oedd wedi digwydd hyd eithafion. Doedd yna fawr o fywyd ar ôl ynddo wrth iddo gyrraedd copa Golgotha.

Roedd y dyn oedd wedi troi y byrddau drosodd ... eistedd plant bach ar ei lin ... tawelu ystormydd ... ac atgyfodi'r meirw ... nawr yn gwaedu mewn poen arteithiol. Roedd yn ymladd am ei wynt ac roedd ei lygaid yn sgleinio gyda poen mileinig.

Ysgwn i a oedd y gwarchodwyr yn ei glywed yn ymladd am ei wynt. Roedd ei fam, oedd wedi'i weld yn cymryd ei anadl cyntaf, nawr yn ei weld yn cymryd ei anadl olaf. Roedd wedi mwynhau ei anadliadau byrlymus cyntaf a nawr roedd rhaid iddi sefyll a bod yn dyst iddo'n ymladd y boen.

Gallai fod wedi galw ar 10,000 o angylion y funud honno. Fe fydden nhw wedi dod i'w achub.

Gallai fod wedi dod i lawr oddi ar y groes ond dewisodd i beidio! Dewisodd gadw ei rym. Pam? Pam wnaeth e ddim arbed ei hun rhag ddirmyg uffern ei hun?

Arhosodd e yna er dy fwyn di - achos TI oedd y llawenydd osodwyd o'i flaen. Roeddet ti ar ei feddwl pan hoeliwyd e ar groes Calfaria.
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r At...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd