Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 5 O 8

Cymrodd Iesu dri disgybl gydag e i Ardd Gethsemane. Roedd Pedr, Iago, a Ioan wedi bod gydag e ar Fynydd y Gweddnewidiad a roedd Iesu eisiau iddyn nhw fod gydag e nawr mewn gweddi.

Ond tra roedd Iesu'n gweddïo .. roedden nhw'n cysgu. Tra roedd Iesu'n chwysu gwaed roedden nhw'n chwyrnu. Tra roedd Iesu'n gweiddi mwn poen ... roedd y tri dyn roedd e'n eu trystio yn cysgu.

Tra roedd e'n gwybod ei fod ar fin marw fel troseddwr trwy weithred treisgar, roedden nhw'n pendwmpian.

Dair gwaith daeth Iesu at y disgyblion .. a'r tri tro roedden nhw'n cysgu.

Dŷn ni'n colli arnom o weld gweithredoedd oedd yn ymddangosodd yn ddiofal, Pedr, Iago, ac Ioan, ac eto sawl gwaith dŷn dŷn ni wedi ein dal yn ildio i ymddygiad ffwrdd â hi pan mae Iesu'n galw arnom.

Dŷn ni'n gwtlio teledu pan mae yna weddïau i'w gweddïo.

Dŷn ni'n darllen nofelau pan mae yna bobl i'w caru.

Dŷn ni'n chwyrnu panb mae ein diwylliant yn chwalu.

Yn union fel roedd y Gwaredwr angen Pedr, Iago, ac Ioan ... mae'r Gwaredwr dy angen di. Mae e wedi dy drystio di gyda pŵer gweddi. Mae e wedi drystio di gyda'r Comisiwn Mawr. Mae wedi dy drystio di gyda'r Efengyl.

Yn yr ardd gweddïodd Iesu, "... paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau."

Wyt ti wedi ceisio gweddïo'r weddi yna pan oedd dy fywyd yn chwalu? Wyt ti erioed wedi gweddïo, "Dad, gwna beth rwyt ti eisiau", pan yn wynebu sefyllfaoedd creulon?

Os na fyddwn yn dysgu dim mwy na hyn yn y digwyddiad hwn o fywyd Iesu, dylen ni geisio gweddïo tra bod eraill yn cysgu ac i geisio ewyllys Duw o flaen pob dim arall.

Pan lwyddodd Iesu i ddeffro'r tri gellid gweld, yng ngolau'r lloer, dyrfa'n dringo ochr orllewinol Mynydd yr Olewydd. Ar ôl i'r dyrfa, dan arweiniad Jwdas, ddal Iesu arhosodd Pedr yn iard tŷ'r prif ooffeiriad, Dyna ble wnaeth Pedr wadu Iesu deirgwaith.

Ysgwn i os byddai Pedr wedi gwadu Iesu pe byddai wedi gweddïo, yn lle cysgu? Ysgwn i pa mor wahanol fyddai bywyd pe bawn i'n gweddïo ... yn hytrach na cysgu.
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r At...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd