Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 3 O 8

Mae'r gair, "Pam?", nad oes ateb iddo'n atsain yn fy enaid wrth i mi ddarllen drwy'r hanes am Iesu'n cael ei fradychu gan Jwdas.

Pam?!

Roedd Jwdas wedi treulio tair mlynedd gyda Iesu! Roedd wedi'i weld e'n iachau cyrff, cyffwrdd bywydau toredig, ac atgyfodi'r marw. Roedd Jwdas wedi clywed Efengyl cariad.

Pam?!

Roedd Jwdas wedi chwerthin a rhannu bywyd gyda Iesu. Mae Jwdas wedi gweld y wyrth o luosogi'r torthau a physgod ... mae wedi gweld storm ar y môr yn cael ei thawelu ... ac ysbrydion aflan yn dianc oddi wrth yr un ddwedodd, "Dw i eisiau golau?"

Pam?!

Oes gan Jwdas galon, hyd yn oed?!

Aeth Jwdas at y prif offeiriaid ... ddaethon nhw ddim ato e. Aeth e atyn nhw.

Dw i wastad wedi meddwl os wnaeth Jwdas fradychu Iesu oherwydd ei gaethiwed ei hun. Ysgwn i os y symbylwyd Jwdas i fradychu Iesu i lofruddwyr oherwydd gorfodaeth roedd wedi methu ei orchfygu erioed.

Roedd Jwdas yng ngofal y blwch arian ac roedd y disgyblion yn gwybod fod Jwdas yn chwiwladrata o'r drysorfa oedd i fod i gael ei rhannu. Dŷn ni ddim yn gwybod os wnaeth y disgyblion, neu Iesu, herio Jwdas am hyn. Yr hyn dŷn ni'n ei wybod yw, bod Jwdas yn gaeth i rywbeth nad oedd erioed wedi'i ddelio ag e.

Gallai Jwdas fod wedi mynd at Iesu gyda'i wendid! Gallai fod wedi cyfaddef, gofyn am faddeuant ac am y nerth. Yn lle, arhosodd y caethiwed llechwraidd a angheuol yn gudd ac felly trechodd allu Jwdas i gerdded trwy ffydd ac nid trwy beth roedd yn ei weld.

Falle na fyddi di'n bradychu Iesu am ddeg darn arian a'r hugain ond bydd yr hyn rwyt yn gaeth iddo a materion eraill yn dy arwain i wneud penderfyniadau anghywir. Byddi'n gwneud pethau fydd yn dy gywilyddio a'th arwain ar hyd llwybr euogrwydd ac edifarhad.

Bydd Satan yn cymryd mantais o'th wendid. Fe wnaeth i Jwdas a bydd yn gwneud i ti.

Falle ei bod hi'n amser i ti wneud penderfyniad na wnaeth Jwdas erioed ... dos at Iesu. Gofynna iddo e am faddeuant a grym. Fe gei di dy synnu fel y bydd yn newid diwedd dy stori!
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r At...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd