Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 1 O 8

"Hosanna" oedd y gair ddechreuodd y 7 diwrnod mwyaf ffrwydrol yn n nhragwyddoldeb gyfan. Ni fyddai wythnos, na gair, na fyddai'n effeithio gymaint ar fywyd dyddiol mewn hanes.

Roedd hi'n wythnos y Pasg yn Jerwsalem roedd bron i 2.5 miliwn o bbol yn llenwi strydoedd y ddinas hynafol. Roedd hi'n ofynnol i bob dyn Iddewig i ddod i Jerwsalem deirgwaith y flwyddyn, 'r Pasg oedd un o'r amseroedd hynny. Sôn am wythnos i gyflwyno Brenin.

Wrth i Iesu reidio drwy'r strydoedd taflodd y tyrfaoedd eu clogynnau ar y ffordd o'i flaen. Roedd hyn yn tebygu i'r ffordd y byddai'r boblogaeth yn croesawu eu brenin buddugoliaethus adre o frwydr.

Torrodd y dorf afieithus ddail o goed ar hyd y ffordd a'u taflu o flaen y Brenin a'i asyn. Chwifiwyd y dail o'r coed uwch eu pennau ac roedden nhw'n gweiddi, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!” Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd

wedi'i fendithio'n fawr! Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”

Roedd y pobl hyn yn addolwyr. Roedden nhw'n cyhoeddi, "Mae popeth sydd gynnon ni'n eiddo i ti Iesu!"

A wyt ti'n addolwr?

Pan fydd Iesu'n dod i mewn i'n bywydau, ein Jerwsalem, mae'n rhaid i ni ymateb gydag ufudd-dod calon a chlod diffuant. Rhaid i ni fynd i brofiad o addoli mor ddeinamig fel ei fod yn achosi i ni aberthu ein cysur a'n traddodiad.

A yw presenoldeb Iesu Grist wedi achosi cynnwrf gwirioneddol yn dy fywyd? A wyt ti wedi ymateb i'w orymdaith fuddugoliaethus gyda rhoi'r gorau i addoli absoliwt yn ddi-hid?

Wrth wynebu Brenhiniaeth Iesu Grist, mae llawer ohonom yn dal yn ôl ac yn gwrthod newid ein dull o addoli. Dylai profiad dilys gyda Mab Duw achosi mynegiant o addoliad sy'n mynd y tu hwnt i ... ymhell y tu hwnt i ... strwythur swyddogol addoliad derbyniol.

Wrth i ni baratoi ein calonnau a'n bywydau ar gyfer ei farwolaeth a'i atgyfodiad, mae'n rhaid i ni ymuno â lleisiau hanes yn gyntaf a datgan yn angerddol ac yn ddiffuant, “Hosanna ... Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”

Hawlfraint 2013 gan Carol Mccleod, cedwir pob hawl. Carol McCLeod yw cyd-sylfaenydd Just Joy Ministries, sydd â chenhadaeth i ysbrydoli merched o bob cefndir i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r Beibl, a thyfu mewn perthynas â'r Arglwydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.JustJoyMinistries.com.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r At...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd