Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 4 O 8

Hwn oedd y trydydd gwledd Pasg i Iesu fwyta gyda'i ddisgyblion.

Roedd gwledd y Pasg wedi'i drefnu o gwmpas yfed pedwar cwpaned o win oedd yn cynrychioli y pedwar addewid o achubiaeth yn Exodus.

Roedd y cwpan cyntaf yn cofio'r addewid, "Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft.". Fe wnaeth Duw y Tad ddod â plant Israel allan o'r Aifft fel y bydd Iesu, nawr, yn dod â'i holl blant allan o bechod.

Roedd yr ail gwpan yn dathlu'r addewid, "Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen." Cafodd plant Israel eu rhyddhau o gaethiwed yn yr Aifft. Mae Iesu, y Gwaredwr, wedir ein rhyddhau ni o gaethiwed satan.

"Dw i'n mynd i'ch achub chi" oedd addewid y trydydd cwpan. Rhyddhawyd yr Israeliaid i wlad yr addewid gan Dduw, a nawr, dŷn ni, y rhai sydd wedi'u hachub o ganlyniad i farwolaeth Iesu, wedi ein gwaredu i fywyd o ddigonedd!

Mae'r pedwerydd cwpan yn symbol o'r addewid, "Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n bobl i mi fy hun."

Dwedodd Iesu y byddai'n cadw yfed o'r pedwerydd cwpan hyd nes y byddwn yn dathlu â'n gilydd yn Nheyrnas Duw. Roedd Iesu'n cyhoeddi i'w deulu daearol y byddai yna swper aduniad ryw ddiwrnod ac y bydden nhw yno.

Os wyt ti wedi derbyn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr, fe fyddi di yno hefyd!

Bydd Iesu'n dechrau'r dathlu drwy groesau gartref o'r diwedd. Byddi di'n gweld Iago a Pedr ... y ferch gyda'r alabastr ... a Lasarus! Byddi di yno!

Yn yr aduniad mawr hwnnw. fydd yna ddim pechod na dioddef. Fydd yna ddim cancr, poenau cefn, na chur pen. A byddi di yna!

Pan fydd pawb wedi dod ynghyd, byd Iesu'n codi'r pedwerydd cwpan ... yr un wnaeth e mo'i hyfed y noson honno yn Jerwsalem. Ym mhresenoldeb y Tad, bydd yn codi'r cwpan hwnnw a bydd gorfoledd yn llenwi'r lle! Bydd gwaedd yn atseinio o drawstiau'r nefoedd ... bydd dwylo'n codi ... bydd sŵn canu'n llenwi'r nefoedd!
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r At...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd