Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yr AddunedSampl

The Vow

DYDD 6 O 6

Yr Adduned o Weddi


MaeJasonaKristyyn ffrindiau gorau ac wedi bod yn briod ers 10 mlynedd. Mae nhw'n teithio llawer gyda'u ci a phedwar plentyn, gan anturio ar ddŵr, yn y mynyddoedd ac ymweld â'r teulu.


Kristy:


Dŷn ni'n dy wahodd i mewn i'r briodas hon. Dŷn ni dy angen yn y briodas. Dŷn ni'n dy wahodd i'r briodas, mis mêl, a'n bywyd wrth i ni ddychwelyd gartref â'n gilydd." Roedd popeth wedi'i drefnu ar gyfer diwrnod y briodas. Yna, fe wnaeth fy ngŵr rywbeth annisgwyl. Sibrydodd y weddi byrfyfyr hon wrth yr allor. Wnes i ddim sylweddoli fel y byddai'r weddi hon yn symud drwy amser a digwyddiadau i ddod â mwy o ryddid a bendith nag oedden ni fyth wedi'i ragweld. Munudau fel hyn sy'n arwain at ddarganfod pŵer gweddi, ac yn dy ysbrydoli i godi dy flaenoriaethau a diolch i Dduw.


Po fwyaf dw i'n gweddïo, gymaint mwy dw i'n sylweddoli nad yw Duw'n symud yn hollol i gyfeiriad dy weddïau. Fodd bynnag, po fwyaf rwyt ti'n gweddïo, gymaint mwy rwyt ti'n sylweddoli ei fod yn gweddïo er dy les wrth iddo symud o fewn a thrwy dy fywyd. Bydd penderfynu i weddïo-gyda'ch gilydd neu ar wahân-ddim yn gwneud y briodas yn hawdd, nac yn berffaith, ond bydd yn gwneud y briodas yn gyfan. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o briodas mae ein gweddi'n swnio fel hyn, "Dduw, beth yw dy genhadaeth ar gyfer ein priodas?"


Jason:


Fel ddwedodd Kristy, fe wnes i addunedu'n fuan iawn i wneud gweddi'n rhan o'n priodas. Ond, mae'r rhan fwyaf o ngweddïau'n llawn o wybodaeth ar gyfer Duw. "Hei, Duw, mae Kristy yn hawlio llawer o'm sylw heddiw", neu "Dw i'n anodd byw hefo fo heddiw", neu falle, "Mae asthma'r mab yn ddrwg heddiw, mae lot o waith i wneud ar y tŷ, mae'r fan angen mynd i'r garej, ac mae arian yn brin dduw. Wyddost ti hynny?" Dw i ddim eisiau cael fy nghamddeall, dw i'n diolch iddo am stwff hefyd, ond mae fy niolch, hyd yn oed, yn llawn o wybodaeth. "O Dduw, mae'r project a'r peth arall yna, a'r berthynas yna wedi gweithio allan yn dda - diolch am hynny." Wyddost ti beth wnes i sylweddoli'n diweddar? Mae gweddi'n gymaint mwy na gwneud Duw'n ymwybodol o dy fywyd, ond yn gymaint mwy o wneud dy hun yn fwy ymwybodol ohono e, yn dy fywyd. Felly, nawr, dw i'n gweddïo i wneud fy mhriodas, teulu, fy swydd, a hyd yn oed fy stwff, yn fwy ymwybodol ohono e. Dw i'n dal i ddweud wrth Dduw sut mae pethau'n mynd yn fy mywyd achos dŷn ni'n agos a dw i'n hoffi rhannu fy mywyd ag e. Ond, nawr pan dw i'n gweddïo, dw i hefyd yn gadael i'w wirionedd, ei bresenoldeb, a'i gariad ddangos yn fy mywyd sut unb yw e. Sut\/ Drwy wrando. Tro nesaf y byddi'n gweddïo treulia tun math o amser i wrando ag wyt ti'n siarad. Defnyddia'r un nifer o eiriau i'w anrhydeddu ag wyt ti'n rhoi gwybodaeth iddo.


Gweddïa:Os wyt ti'n briod, gweddïa allan yn uchel gyda'th gymar heddiw a phenderfynu pryd i weddïo gyda'ch gilydd nesaf. Os nad wyt yn briod, nawr yw'r amser perffaith i wneud gweddi'n rhan o'th fywyd


>Darllena fwy o safbwyntiau duwiol ar briodas, rhyw, dyddio, ac unigrwydd.


Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Vow

Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd