Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yr AddunedSampl

The Vow

DYDD 2 O 6

Yr Adduned o Flaenoriaeth


MaeJonathanaMichellewedi bod yn briod am 10 mlynedd ac yn teimlo eu bod ar eu gorau tra'n gwasanaethu eraill a chwerthin o gwmpas y bwrdd gyda ffrindiau.


Jonathan:


"Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.


Edrych yn syml yn tydi. Dydw i ddim yn addoli Duw o grefyddau eraill. Wrth gwrs nad ydw i'n plygu o flaen ryw bŵer uwch dychmygol, na'n dilyn athrawiaethau crefyddau eraill. Cymer olwg. Mae gen i'r gorchymyn hwn ar glo. Beth sydd gan hyn i wneud â phriodas?"


Aros di funud. Edrych arni fel hyn, ""bod heb unrhyw beth neu berson cyn fi." Pethau dw i'n gallu eu rhoi gyntaf o flaen Duw: fy mhriodas, fy swydd, fy mhlant, fy iechyd, a mwy. Pethau sy'n dda. Nes eu bod yn symud Duw oddi ar ben yr rhestr. Yna, maen nhw'n dduwiau. Dyma beth dw i wedi sylweddoli: pan fydd gofynion bywyd yn teimlo’n llethol, mae hyn yn aml oherwydd fy mod i wedi rhoi rhywbeth neu rywun cyn Duw.


Dydy peidio rhoi dim cyn Duw ddim yn hawdd, ond mae er dy les di. Pan mae dy flaenoriaethau mewn trefn - Duw'n gyntaf a phriodas wedyn - nid yn unig mae yna harmoni'n dy fywyd, ond mae yna heddwch dwfn, cysur, a hyder ysbrydol ynot ti hefyd na ellir ei stopio.


Michelle:


Yn llawer rhy aml dw i'n sylweddoli mod i wedi cyfnewid Duw fel fy #1 a Jonathan fy #2 gyda phethau eraill, yn syml drwy gymryd fy mlaenoriaethau'n ganiataol! Dw i hyd yn oed wedi rhoi fy hoff hobïau gyntaf!


Mae rhoi Duw'n gyntaf yn golygu amser bwriadol ag e, darllen ei Air, ei geisio e gyntaf o flaen popeth. Popeth! A dydy e ddim yn effeithio arna i'n unig. Pan mae fy mlaenoriaethau'n anghywir, dydy fy anghenion ddim yn cael eu hateb, a dw i'n edrych at Jonathan i 'w hateb. Yn sylfaenol, dw i'n gofyn iddo e roi fi gyntaf. Dydy hynny ddim yn deg. Dim ond Duw all ateb fy anghenion yn gyfan gwbl. Diolch i'r drefn dw i'n dysgu ac ailddysgu y gall fy mhriodas ond bod yn gryf cyn belled a dw i'n gryf yn fy Arglwydd. A rhoi Duw'n gyntaf yw'r unig ffordd mae hynny'n gweithio!


Gweddïa:O Dduw, beth ydw i wedi'i roi gyntaf? Ail? Trydydd? A wnei di roi imi y nerth i gael y sgyrsiau a gwneud y penderfyniadau dw i eu hangen i gael trefn ar fy mlaenoriaethau? Amen.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Vow

Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd